Pwpilometreg, Agweddau Iaith, a Thaith i Mannheim gan Dan Strogen

Fel sy’n digwydd yn aml mewn ymchwil, nid oedd fy narganfyddiad o bwpilometreg yn gynllun bwriadol, ond yn hytrach damwain ffodus. Yn 2024, wrth ddilyn fy ngradd meistr mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol, mynychais gynhadledd EuroSLA – y Gynhadledd Ymchwilwyr Caffael Ail Iaith Ewropeaidd – a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Montpellier. Yno, ochr yn ochr â’m darpar oruchwyliwr PhD, Dr Vivienne Rogers, mynychais ystod eang o gyflwyniadau yn canolbwyntio ar gaffael ail iaith.

Llun o Montpellier yn 2024

Nid EuroSLA oedd fy mhrofiad cyntaf o gynhadledd academaidd. Yn gynnar y flwyddyn honno, roeddwn i wedi helpu i redeg y Symposiwm Rhyngwladol ar Brosesu Dwyieithog ac L2 mewn Oedolion a Phlant (ISBPAC) pan gafodd ei gynnal yn Abertawe. Serch hynny, yn EuroSLA y dechreuais werthfawrogi gwir werth digwyddiadau o’r fath. Sylweddolais fod cynadleddau yn cynnig llawer mwy na sgyrsiau ffurfiol yn unig: maen nhw’n cynnig gofod ar gyfer archwilio deallusol, ysbrydoliaeth annisgwyl, a sgyrsiau anffurfiol sydd yn aml yr un mor ddylanwadol â’r cyflwyniadau sy’n cael eu trefnu.

Yn ystod un cyflwyniad o’r fath – gan Dr Dieter Thoma a Miss Stefanie Radetzky – y dysgais am bwpilometreg gyntaf. Ar y pryd, roedd y dull yn hollol newydd i mi. Gadewais y cyflwyniad yn llawn chwilfrydedd, a gyda chwestiwn a fyddai’n dod i mewn i’m PhD: beth allai pwpilometreg ei ddatgelu am sut mae dysgwyr yn prosesu ac yn ymateb i iaith?


Beth yw Pwpilometreg?

Cyn i mi fynd ymhellach, efallai y byddai’n ddefnyddiol egluro’n gyflym beth yw pwpilometreg. Pwpilometreg yw’r mesuriad o faint ac adweithedd cannwyll y llygad, a gofnodir fel arfer gan ddefnyddio offer llwybro’r llygaid. Er y gall hyn beri syndod i ddechrau, mae canhwyllau ein llygaid yn gwneud mwy nag ymateb i newidiadau mewn golau – maen nhw hefyd yn ymledu ac yn cyfyngu mewn ymateb i ysgogiadau emosiynol a gwybyddol. Mae hyn yn eu gwneud nhw’n arwydd ffisiolegol cynnil ond dadlennol o brosesau mewnol fel ymdrech feddyliol, sylw, a chyffro. Yng nghyd-destun caffael ail iaith, mae pwpilometreg yn agor llwybr addawol ar gyfer ymchwilio i sut mae dysgwyr iaith yn prosesu cynnwys emosiynol, gan gynnig mewnwelediadau nad oes modd cael mynediad iddynt trwy fesuriadau ymddygiadol yn unig.

Yn dilyn y cyflwyniad, cefais fy nghyfareddu fwyfwy gan y posibiliadau y gallai’r dull hwn eu cynnig. Dechreuais ystyried a ellid cymhwyso pwpilometreg y tu hwnt i’w chyd-destun gwreiddiol, yn enwedig mewn ymchwil ar agweddau ieithyddol a gwerthuso ymhlyg. Dros amser, datblygodd y chwilfrydedd hwn yn drywydd ymholi o fewn fy ymchwil doethurol fy hun.


Y Cyfle i Hyfforddi ym Mannheim

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, wrth drafod fy syniadau cynnar gyda Dr Rogers, awgrymodd y dylwn gysylltu â Dr Thoma i archwilio’r dull yn fwy difrifol. Cysylltais ag ef trwy e-bost, ac er mawr lawenydd i mi, ymatebodd yn gyfeillgar. Ar ôl sgwrs fer – a gyda chefnogaeth Dr Thoma a Stefanie – cefais wahoddiad i ymweld â Phrifysgol Mannheim. Yno, byddwn yn derbyn hyfforddiant ymarferol mewn pwpilometreg ac yn cael cyfle i gyflwyno fy ymchwil yn eu colocwiwm adrannol.

Bu’r ymweliad hwn yn drobwynt. Gwnaeth yr hyfforddiant a gefais – yn dechnegol a chysyniadol – ddyfnhau fy nealltwriaeth o ddulliau pwpilometrig a’m helpu i feddwl yn fwy beirniadol am sut y gellid eu haddasu ar gyfer fy nghwestiynau ymchwil fy hun. Gwnaeth cyflwyno fy syniadau i gynulleidfa academaidd newydd hefyd roi’r cyfle i mi egluro fy ffordd o feddwl a lleoli fy ngwaith o fewn cymuned ymchwil ehangach.

Dim ond drwy gefnogaeth yr ESRC y bu’r math hwn o gyfle – yn enwedig ar gam mor gynnar mewn PhD – yn bosibl. Roeddwn i’n ffodus i allu manteisio ar y gronfa deithio a oedd ynghlwm wrth fy efrydiaeth, a dalodd y costau teithio a llety. Nid yw mynediad at y math hwn o gyllid yn rhywbeth rwy’n ei gymryd yn ganiataol. Caniataodd i mi ddilyn trywydd ymholi a fyddai fel arall wedi parhau’n haniaethol, a meithrin cysylltiadau gwerthfawr sydd wedi llywio fy hyder a’m cyfeiriad ymchwil. Gwnaeth fy atgoffa hefyd pa mor hanfodol yw hi bod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn cael yr adnoddau i archwilio, arbrofi a chydweithio y tu hwnt i’w sefydliadau cartref.

Llun o Schloss Mannheim, sedd Prifysgol Mannheim

Cyflwyno ym Mannheim

Wrth gwrs, roedd y syniad o gyflwyno fy ymchwil yng ngholocwiwm adrannol Mannheim yn rhoi cathod bach i mi. Fel rhywun sy’n dal i fod ar gam cynnar ar ei daith ddoethurol, roedd y posibilrwydd o rannu syniadau sy’n dal i ddatblygu gydag ystafell o academyddion profiadol yn frawychus. Ond unwaith i mi ddechrau siarad, mwynheais yr her. Siaradais am wreiddiau ffocws fy ymchwil: adfywio iaith yng Nghymru, yn benodol ymhlith pobl ifanc. Mae fy niddordeb yn y maes hwn wedi’i ffurfio nid yn unig gan chwilfrydedd academaidd, ond gan brofiad hefyd. Cyn dechrau fy astudiaethau ôl-raddedig, hyfforddais fel athro cynradd. Rhoddodd yr amser hwnnw yn yr ystafell ddosbarth olwg uniongyrchol i mi ar sut mae plant yn ymgysylltu â’r Gymraeg – nid dim ond sut maen nhw’n ei defnyddio, ond sut maen nhw’n teimlo amdani. Datblygodd fy niddordeb yn y dimensiynau emosiynol, cymdeithasol, a hunaniaethol sy’n gysylltiedig â dysgu iaith, yn enwedig mewn cyd-destun lle mae gan yr iaith bwys hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol.

Llun ohona’ i yn cyflwyno yn y colocwiwm

Siaradais hefyd am fy ymchwil gradd meistr, a oedd yn archwilio deinameg dirywiad y Gymraeg ar ôl addysg ymhlith oedolion ifanc sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg. Wedi fy ysgogi gan fwlch yn y llenyddiaeth, defnyddiais ddull cymysg gan gyfuno’r Proffil Iaith Dwyieithog (BLP), Prawf Cysylltiad Ymhlyg (IAT), a chyfweliadau adalw ag ysgogiadau. Caniataodd hyn i mi ymchwilio i agweddau echblyg ac ymhlyg tuag at y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â phrofiadau iaith ehangach y cyfranogwyr. Tra bod data meintiol wedi datgelu gwahaniaethau mewn goruchafiaeth iaith rhwng y rhai a barhaodd i ddysgu Cymraeg y tu hwnt i’r ysgol a’r rhai na wnaeth, dangosodd hefyd fod agweddau ymhlyg yn parhau’n sefydlog ar y cyfan ar draws y ddau grŵp. Mewn cyferbyniad, amlygodd canfyddiadau ansoddol ffactorau cymhleth sy’n dylanwadu ar ymddieithrio o’r Gymraeg, gan gynnwys ansicrwydd ieithyddol, dadleoli diwylliannol, a’r canfyddiadau o ddiffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.

Tanlinellodd yr astudiaeth ddimensiynau emosiynol a chymdeithasol dirywiad iaith – agweddau y mae mesurau traddodiadol yn aml yn eu hanwybyddu – a gosododd y sylfaen ar gyfer fy niddordeb presennol yn y modd y gellir cofnodi ymatebion llai amlwg i iaith, fel ymdrech anymwybodol neu gyffro emosiynol, trwy ddulliau ffisiolegol fel pwpilometreg.

Roedd yr adborth a gefais yn hael, yn adeiladol ac yn ysgogi’r meddwl, ac roedd yr awyrgylch yn yr ystafell yn un o chwilfrydedd deallusol go iawn. Gwnaeth nifer o fynychwyr fynegi safbwyntiau newydd, herio fy rhagdybiaethau mewn ffyrdd defnyddiol, a rhannu enghreifftiau o’u hymchwil eu hunain a oedd yn taro tant gyda’m hymchwil i. Gadewais y sesiwn nid yn unig gyda synnwyr cliriach o le roedd fy mhrosiect yn mynd, ond hefyd gyda gwerthfawrogiad dyfnach o natur gydweithredol, ryngwladol gwaith academaidd.


Crwydro Mannheim: Hufen Iâ a Phensaernïaeth

Y tu hwnt i’r rhaglen academaidd, bu fy amser ym Mannheim hefyd yn gyfoethog o safbwynt personol. Cefais gyfle i archwilio rhai o dirnodau’r ddinas, gan gynnwys y Wasserturm eiconig a’r Jesuitenkirche Basilica Carolina fawreddog, y gwnaeth ei muriau baróc addurnedig gynnig eiliad o fyfyrdod tawel yng nghanol amserlen brysur. Rhoddais gynnig ar Sbaghettieis am y tro cyntaf hefyd—pwdin sy’n cael ei wneud i ymdebygu i blât o spaghetti, a oedd, yn wir, yn un o uchafbwyntiau’r daith. Gwnaeth yr eiliadau hyn yn fy atgoffa o ba mor werthfawr yw profi lle y tu hwnt i furiau’r brifysgol. Fe wnaethon nhw wreiddio’r ymweliad yn y cof a gwneud i’r daith gyfan deimlo fel mwy na dim ond gwaith – roedd yn brofiad gwirioneddol bleserus a ffurfiannol.

Dim ond newydd ddychwelyd o Mannheim ydw i, ond yn barod mae’r profiad wedi dechrau siapio sut rydw i’n meddwl am fy mhrosiect. Er fy mod yn dal i fod ar y camau cynnar o fireinio cynllun fy astudiaeth, rhoddodd yr hyfforddiant sylfaen gref – yn dechnegol a chysyniadol – ar gyfer y posibilrwydd o weithio gyda phwpilometreg. Bellach mae gennyf synnwyr cliriach o sut mae’r dull yn gweithio’n ymarferol: sut i raddnodi’r offer llwybro’r llygaid, sut i strwythuro cyflwyno ysgogiadau, a sut i ddechrau mynd ati i ddadansoddi data. Yn bwysicach fyth, gwnaeth y sgyrsiau a gefais yn ystod fy ymweliad fy helpu i feddwl yn feirniadol am y math o gwestiynau y gall pwpilometreg helpu i’w hateb – ac, yr un mor hanfodol, y cwestiynau na all eu hateb.

Llun o Wassterturm
Llun o Spaghetteis


Pwpilometreg ac Agweddau Ieithyddol: Ble Nesaf?

Wrth i mi ddechrau braslunio sut y gellid ymgorffori pwpilometreg yn fy ymchwil ddoethurol, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir ei defnyddio i ymchwilio i ymatebion emosiynol ymhlyg i wahanol fathau o ieithoedd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau ieithyddol, ac rwy’n chwilfrydig ynghylch a allai ymlediad cannwyll y llygad gynnig ffenestr i’r modd y mae gwrandawyr yn ymateb i ieithoedd neu acenion y maent wedi’u cymdeithasoli i’w hedmygu, eu diystyru neu eu hofni. Mae’n gynnar o hyd, ac mae llawer o heriau o’m blaen, ond mae’r profiad ym Mannheim wedi rhoi’r offer a’r hyder i mi ddilyn y trywydd ymholi hwn.

I ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfa, yn enwedig y rhai sydd newydd ddechrau eu PhD, mae fy nghyngor yn syml: dilynwch eich chwilfrydedd – ond angorwch ef i’ch problem ymchwil. Mae’n demtasiwn mynd ar drywydd pob syniad newydd cyffrous, ond yr archwiliadau mwyaf gwerth chweil yw’r rhai sy’n dyfnhau neu’n cyfoethogi eich cwestiynau canolog. Os ydych chi’n ddigon ffodus i gael mynediad at gronfeydd hyfforddi neu oruchwylwyr cefnogol, ewch amdani: estynnwch allan at bobl y mae eu gwaith yn eich cyffroi, ewch i gynadleddau sy’n ehangu eich gorwelion, a pheidiwch â bod ofn archwilio dulliau anghyfarwydd. Mae gwthio y tu hwnt i’ch cynllun gwreiddiol yn fwyaf gwerthfawr pan mae’n eich helpu i weld eich prosiect o ongl newydd neu’n rhoi offer i chi fynd i’r afael â’ch problem graidd mewn ffordd wahanol. Dydych chi byth yn gwybod pa sgwrs neu gyfle annisgwyl a allai, yn dawel bach, ail-lywio cyfeiriad eich ymchwil.


Dan Strogen, Myfyriwr WGSSS, yn ysgrifennu am ei brofiadau ar ei ymweliad dramor i gynhadledd Euro SLA.

Defnyddiodd Dan ei Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil i ariannu ei ymweliad â Mannheim. Os ydych yn cael eich cyllido fel myfyriwr YGGCC rydych yn gymwys i gael lwfans tuag at eich costau (yn unol â’ch barn chi, eich goruchwyliwr neu eich adran fel modd o roi cymorth uniongyrchol â’ch ymchwil)

Bydd eich sefydliad cartref yn prosesu hawliadau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Cysylltwch â gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig eich ysgol/adran yn y lle cyntaf os nad ydych yn siŵr am y broses ar gyfer bilio treuliau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.