Mae PHD Cymru wrth eu bodd yn cyhoeddi bod yr Athro John Harrington wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr newydd arno.

John yw Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd. Wrth ymateb i’r penodiad, dywedodd John, ‘mae’n fraint cael bod yn gyfarwyddwr ar PHD Cymru ESRC. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’n cydweithwyr ar draws y bartneriaeth. Oherwydd gwaith caled ein harweinwyr Llwybrau, ymroddiad ein tîm cefnogi, ac arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr sy’n ein gadael, yr Athro David James, rydym ni’n cael ein hedmygu’n eang am ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant rhagorol ar gyfer ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol yn y gwyddorau cymdeithasol.’ Bydd David James yn gweithio ochr yn ochr â John Harrington yn ystod yr wythnosau nesaf i sicrhau pontio llyfn.