Dr Chris Muellerleile (c.m.muellerleile@swansea.ac.uk)
Prifysgol Abertawe,
Dr Julian Brigstocke (BrigstockeJ@cardiff.ac.uk)
Prifysgol Caerdydd,
Dr Gareth Hoskins (tgh@aber.ac.uk)
Prifysgol Aberystwyth,
Trosolwg o’r llwybr
Mae Daearyddiaeth Ddynol yn ddisgyblaeth sy'n pennu'r agenda, gydag arloesi, amrywiaeth a bywiogrwydd empirig a chysyniadol yn nodweddion amlwg. Mae'r llwybr yn ymwneud â gofod, graddfa, a thirwedd fel modd o ddeall gweithgareddau a phrofiadau dynol. Mae ganddo gryfderau craidd mewn daearyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol, economaidd, hanesyddol, wleidyddol, poblogaeth, wledig a meintiol, yn ogystal â GIS.
Mae'r llwybr daearyddiaeth ddynol yn seiliedig ar gysylltiadau sefydliadol hirsefydlog rhwng Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau'r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, ac Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r tair adran yn cydweithio'n helaeth mewn mentrau ymchwil a ariennir, goruchwyliaeth PhD, a hyfforddiant ôl-raddedig ehangach yn y damcaniaethau a dulliau diweddaraf ym maes daearyddiaeth ddynol. Dangosodd pob un o'r tair uned waith o safon eithriadol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Mae myfyrwyr yn cael eu denu gan fywiogrwydd a bwrlwm ein hamgylchedd ymchwil, sydd, wrth bwysleisio ymchwil a gynhyrchir ar y cyd, yn cynnwys cydweithio â phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, Arolwg Ordnans, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cyngor Mwslimiaid Cymru, a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.
Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol
Mae’r llwybr yn bwysig i’r gymuned gwyddor gymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt drwy Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), y Ganolfan Symudiad Pobl, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, y Ganolfan Arsyllfa Mannau Cyhoeddus, a chyfleusterau fel Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ESRC, sy'n werth £8 miliwn.
Mae academyddion y llwybr yn cael eu cydnabod yn fyd-eang am arwain dadleuon ym maes daearyddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol (gydag arbenigeddau ymchwil ym maes daearyddiaeth y cyfryngau a symudedd); daearyddiaeth economaidd; daearyddiaeth hanesyddol; daearyddiaeth wleidyddol; daearyddiaeth poblogaeth a demograffeg (gydag arbenigedd mewn astudiaethau mudo); daearyddiaeth feintiol a GIS; ymchwil cymdeithas ac amgylchedd; daearyddiaeth drefol, daearyddiaeth wledig, astudiaethau tirwedd, a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Darperir hyfforddiant drwy raglen o weithdai annibynnol, gweithdy preswyl ynghylch Theori Daearyddiaeth Ddynol, a chynhadledd ôl-raddedig flynyddol i ddatblygu carfan. Mae'r pynciau'n cynnwys: defnyddio GIS; cyhoeddi a lledaenu gwybodaeth; cyflawni effaith; cyfleoedd ymchwil-polisi; a pharatoi ar gyfer gyrfa academaidd. Mae'r llwybr hefyd yn noddi cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, Agoriad, dan arweiniad myfyriwr PhD.
Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd
Mae myfyrwyr doethurol y llwybrau yn ymgymryd â gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid anacademaidd amrywiol. Mae llawer o’n myfyrwyr doethurol wedi datblygu gyrfaoedd academaidd mewn addysg uwch yn y DU neu wedi cael swyddi proffesiynol mewn sefydliadau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iaith – y Ganolfan Cynllunio Iaith, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau trydydd sector.