Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Pob Llwybr > Cymdeithas a Lles 
Cynullydd Llwybr:
Photograph of Dr Ross Roberts

Dr Ross Roberts (ross.roberts@bangor.ac.uk)

Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Prifysgol Bangor

Cysylltiadau Llwybr:
  • Photograph of Dr Andrew Bloodworth

    Dr Andrew Bloodworth (A.J.Bloodworth@Swansea.ac.uk)

    Prifysgol Abertawe,

  • Photograph of Prof Lynne Evans

    Prof Lynne Evans (LEvans@cardiffmet.ac.uk)

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Mae'r Llwybr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i adeiladu ar gymhwysiad cynhwysol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol o'r gwyddorau cymdeithasol i chwaraeon ac ymarfer corff mewn cymdeithas, ac mae wedi'i ymgorffori mewn ysgolion amlddisgyblaethol. Mae dulliau cyfoes o fynd i’r afael â’n maes yn cwmpasu nifer o feysydd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys: seicoleg, athroniaeth, moeseg, cymdeithaseg, economeg, daearyddiaeth a hanes, a hynny’n aml mewn cydweithrediad ag ymchwil o feysydd y gwyddorau meddygol a naturiol. Felly, mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael profiad o ddulliau diwylliannol a methodolegol disgyblaethau sydd o fewn y gwyddorau cymdeithasol a’r tu hwnt iddynt, elfen sy'n darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer yr amgylcheddau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol y maent yn cael mynediad iddynt ar ôl cwblhau eu doethuriaethau. 

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Mae gan y tri sefydliad sy'n rhan o'r llwybr hwn enw da hirsefydlog am ragoriaeth ymchwil. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae yna ymchwilwyr mewn cymdeithaseg chwaraeon ac ymarfer corff, ac, yn gyffredin â Phrifysgol Abertawe, mewn athroniaeth chwaraeon ac ymarfer corff, sydd gyda’r gorau yn y byd. Ynghyd â Phrifysgol Bangor, mae pob un o'r tri yn cynnig ymchwil ragorol ym meysydd seicoleg ac addysgeg chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'r llwybr yn manteisio ar arbenigedd cyfun nodedig y sefydliadau partner, ac ar ansawdd, cwmpas a chyrhaeddiad eu hymchwil (fel y dynodwyd gan yr ymarfer REF2021 diweddar) i ddarparu amgylcheddau ymchwil cyfoethog ac ysgogol lle gall myfyrwyr doethurol ffynnu. 

    Mae pob sefydliad yn cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol ar gyfer hyfforddiant ymchwil doethurol, lle caiff myfyrwyr gyfleoedd sylweddol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a'u cyfleoedd ar gyfer gyrfa y tu hwnt i'w hyfforddiant pwnc-benodol. Yn ogystal, mae'r llwybr yn gweithio mewn modd hynod o gydweithredol i ddarparu hyfforddiant a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr a ariennir gan yr WGSSS, ac rydym yn hwyluso cynhadledd flynyddol lle gall ymchwilwyr ôl-raddedig sy'n astudio gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ledled Cymru ddod at ei gilydd i gyflwyno eu gwaith eu hunain, gan hefyd gael hyfforddiant a chymorth pellach gan arbenigwyr sefydliadol ac mewn diwydiant.

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    Un o gryfderau penodol y llwybr hwn yw'r gallu profedig ar gyfer cydweithrediad a lleoliadau yn achos partneriaid allanol, elfennau y mae tystiolaeth ohonynt i’w gweld yn y partneriaethau ag amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, a sefydliadau’r sector preifat. Mae'r rhain yn cynnwys: Bwrdd Criced Cymru a Lloegr; Chwaraeon Cymru; Llywodraeth Cymru; yr Undeb Ewropeaidd; Athletau Byddar Lloegr; Rygbi’r Undeb; Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe; Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent; a'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.