Meddyliau Cyntaf am Leoliad

Mae Ymchwil mewn Ymarfer yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn profiadau datblygu ymarferol, gan gynnwys lleoliadau o fewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd.  Bob mis, byddwn yn rhannu’r newyddion diweddarfar fan y rhai sydd ar leoliad ar hyn o bryd.  

Os hoffech gael cymorth i gydlynu eich lleoliad, cysylltwch â chydlynydd Ymchwil mewn Ymarfer – Sian Shepherd esrcrip@bangor.ac.uk


Eich rôl lleoliad a’r cwmni:

Rwy’n gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cefnogi partneriaeth ag YDG Cymru sy’n hyrwyddo defnyddio data cysylltiedig mewn ymchwil gofal cymdeithasol.

Eich barn hyd yn hyn ar y lleoliad:

Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am y prosesau sy’n rhan o baratoi data gweinyddol ar gyfer ymchwil. Mae fy PhD yn cynnwys dadansoddiad o gyfrifiad newydd Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chefnogaeth, ac mae’r lleoliad yn ategu’r project hwnnw drwy roi cipolwg i mi ar rôl y sector cyhoeddus wrth ddatblygu’r cyfrifiad a setiau data gweinyddol eraill. Rydw i wedi dysgu am aeddfedrwydd data sefydliadol, prosesau a rheoliadau rhannu data, a sut mae perchnogion data yn gweithio gydag amgylcheddau data diogel i amddiffyn data pobl. Rydw i wedi cynhyrchu rhywfaint o gynnwys gwe am y project ar gyfer gwefan Grŵp Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i gyfrannu at greu fideo wedi’i animeiddio am rannu data.

Unrhyw gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd newydd ddechrau ei leoliad neu sy’n ystyried lleoliad:

Mae fy nghydweithwyr ar leoliad wedi pwysleisio fod hwn yn gyfle i ddysgu, ac rydw i wedi cael fy annog i gysylltu ag amrywiol adrannau i ddysgu mwy am eu gwaith o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn adleisio’r argymhelliad hwnnw; defnyddiwch yr amser i ddysgu ac i geisio cael profiad eang o’r sefydliad yn ogystal â phrofiad manwl o’ch prif broject.



Dywedwch wrthym am eich lleoliad:

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymyriadau i gynyddu faint o bobl sy’n cael profion am firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed (HIV, Hepatitis B ac C) ymhlith poblogaethau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol, gan gyfrannu at Gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Ddileu Firysau sy’n cael eu Cludo yn y Gwaed. Rwy’n defnyddio fframwaith COM-B i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol ac yn defnyddio technegau ymchwil ansoddol a meintiol i nodi’r ffactorau sy’n rhwystro ac yn hwyluso cynnal profion o fewn gwasanaethau megis carchardai, clinigau iechyd rhywiol, a rhaglenni camddefnyddio sylweddau.

Y manteision hyd yn hyn: 

Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd. Ochr yn ochr â hynny, mae’r lleoliad yn helpu i wella fy sgiliau ymchwil a deall ymddygiad pobl yn well mewn perthynas â phrofion.

Rydw i wrth fy modd â’r lleoliad, ac rydw i wedi dysgu llawer ac yn teimlo’n ddiolchgar fy mod i’n cael gweithio gyda chydweithwyr hyfryd a chefnogol. Ond, bu’n rhaid wrth ychydig o amynedd gan iddi gymryd amser i mi gael mynediad at systemau ac ati.

Awgrymiadau i gyd-fyfyrwyr PhD:

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dechrau lleoliad yw eich bod yn ei ddefnyddio fel cyfle i archwilio swyddi sydd y tu allan i’r llwybr gyrfa ymchwil arferol, efallai y byddwch chi’n synnu at y cyfleoedd, a dylech fanteisio hefyd ar y cyfle i feithrin cysylltiadau proffesiynol ystyrlon.