Interniaethau

Fel myfyriwr sy’n cael cyllid drwy YGGCC, mae gennych ddewis heb ei ail o gyfleoedd i ymgymryd ag interniaethau a manteisio ar yr holl fuddion a ddaw yn sgil hynny. Os ydych yn llwyddo wrth wneud cais am interniaeth, byddwch yn cael estyniad cyflogedig i’ch PhD yn hafal i hyd interniaeth (rhwng 1 a 6 mis) fel na fydd yn cymryd amser oddi wrth eich gwaith ymchwil. Mae modd cael costau teithio a llety fel arfer.

Rydych chi’n treulio rhwng un a chwe mis mewn sefydliad anacademaidd yn y sector cyhoeddus, preifat neu gymdeithas sifil (gwirfoddol). Nid oes angen i’r interniaeth fod yn gysylltiedig â’ch ymchwil, ac mae llawer o interniaid wedi dweud bod y profiad wedi rhoi golwg o’r newydd iddynt ar gyfer eu PhD, yn ogystal ag egni newydd ar gyfer y gwaith.

Mae’r interniaethau fel arfer yn golygu darn diffiniedig o waith sy’n seiliedig ar ymchwil ar gyfer y sefydliad cartref.  Ar yr un pryd, mae manteision amlwg i chi, a allai gynnwys datblygu:

  • Rhwydweithiau ymhlith llunwyr polisi ac ymarferwyr
  • Gwybodaeth ddefnyddiol am sefydliadau a sut maent yn gweithio
  • Sgiliau penodol mewn ysgrifennu adroddiadau, cyfathrebu a rheoli amser
  • Eich gallu i weithio mewn tîm
  • Amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy eraill

Rydych yn debygol o ganfod bod cwblhau interniaeth o gymorth i’ch gwneud chi’n fwy amlwg na’ch cymheiriaid wrth wneud cais am swyddi o fewn ac y tu allan i’r byd academaidd.


Profiadau interniaeth

Yn y fideos 3 munud a ganlyn, mae myfyrwyr PHD Cymru sydd wedi gwneud interniaethau yn disgrifio eu profiadau ac yn myfyfyrio ar yr hyn maent wedi ei ddysgu, a sut y dylanwadodd hynny ar eu PhD.

Gallwch hefyd ddarllen adroddiadau interniaeth ein myfyrwyr.


Cyfleoedd

Rydym yn hysbysebu cyfleoedd am interniaethau gyda Llywodraeth Cymru dair gwaith y flwyddyn, a chyda sefydliadau eraill o bryd i’w gilydd. Mae UKRI yn cynnig cynllun interniaethau polisi sy’n cynnig interniaethau 3 mis i fyfyrwyr wedi eu cyllido drwy ESRC, sydd fel arfer yn cael eu hysbysebu bob haf.