Cystadleuaeth Gydweithredol dan Arweiniad Goruchwyliwr

Bydd Cystadleuaeth Gydweithredol 2026 yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2026.


Bydd cystadleuaeth Ysgoloriaeth Gydweithredol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn cael ei lansio Mawrth/Ebrill 2026. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD cydweithredol wedi’i ddiffinio ymlaen llaw (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2026/27) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau. Dydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gydweithredol YGGCC. Bydd prosiectau cydweithredol sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill 2026.

Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd hefyd (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).  

Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gyffredinol. Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun.   


2026 Amserlen y Gystadleuaeth Gydweithredol  

Canol Mawrth 2026 Ceisiadau Cystadleuaeth Gydweithredol yn agor  Bydd y prosiectau sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ganol mis Mawrth.  
Ebrill / Mai 2026 Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Manylir ar ddyddiadau cau yn hysbysebion y prosiectau unigol
Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau.     
Mai / Mehefin 2026Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC  Mae ceisiadau gan fyfyrwyr ar gyfer prosiectau penodol yn cael eu hadolygu gan banel o Is-grŵp Cystadleuaeth Bwrdd Rheoli YGGCC.  
Mai / Mehefin 2026Cytuno ar y dyfarniadau  
Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth.
Mehefin 2026 Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn  
Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael.  
Mehefin 2026 Prosesu cynigion ffurfiol  
Mehefin 2026  Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol  


Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth


Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Defnyddir yr wybodaeth a gesglir o’r ffurflen hon at ddibenion ystadegol a monitro yn unig. Ni chaiff ei defnyddio yn rhan o’r broses asesu. Defnyddir yr wybodaeth i gynhyrchu ystadegau anhysbys ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.


2026 Prosiectau Cydweithredol

Bydd prosiectau cydweithredol sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill 2026.