
Cynhaliwyd Cynhadledd WISERD 2025 ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 30 Mehefin a 1 Gorffennaf gyda dros 120 o ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Roedd WGSSS yn falch o gydweithio â Chymdeithas Ddysgedig Cymru i noddi gwobrau cyflwyniadau cynhadledd WISERD: Papur Ymchwilydd Newydd Gorau a Sgwrs Sydyn Orau.
Dechreuodd y gynhadledd gyda sesiwn newydd ar gyfer ymchwilwyr newydd, gyda dros 60 o ymchwilwyr newydd yn bresennol, a oedd yn cynnwys adran papurau agored. Cyflwynodd pedwar o’n myfyrwyr WGSSS blwyddyn gyntaf bapurau yn y sesiwn hon:
- Aidan Bark-Connell (Llwybr Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Bangor)
- Alys Samuel-Thomas (Llwybr Cynllunio Amgylcheddol, Prifysgol Abertawe)
- Betsi Doyle (Llwybr Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Caerdydd)
- Daniel Southall (Llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd, Prifysgol Caerdydd)



Ar ôl hyn roedd sesiwn Sgwrs Sydyn newydd, gyda chyflwyniadau 3 munud o hyd gan chwe ymchwilydd newydd. Yn eu plith roedd myfyrwyr WGSSS, Ka Long Tung (Llwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal, Prifysgol Caerdydd) a Jay Chard (Llwybr Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol, Prifysgol De Cymru).

Ysgrifenna Jay, “Roeddwn i’n edrych ymlaen at gynhadledd WISERD am y cyfle i rwydweithio a dysgu o’r ymchwil gymdeithasol anhygoel arall sy’n cael ei gwneud yng Nghymru ond, fel myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf, roeddwn i hefyd eisiau manteisio ar y cyfle i arddangos fy mhrosiect, cael adborth, a chael profiad o gyflwyno mewn lleoliad cynhadledd. Mae’r sgyrsiau sydyn 3 munud o hyd yn ffordd wych o wneud hyn. Mae crynhoi a chyflwyno eich prosiect mewn 3 munud yn heriol, ond mae’n llai o bwysau na chyflwyniad 10/15 munud llawn (yn enwedig os nad oes gennych chi unrhyw ganfyddiadau i’w hadrodd eto!)
Roedd y sesiwn Ymchwilydd Gyrfa Gynnar ar ddechrau’r gynhadledd yn gefnogol iawn ac roeddech chi’n cyflwyno i ystafell o gyfoedion mewn sefyllfa debyg i chi, ac mae’n fonws eich bod chi’n gallu cael eich cyflwyniad chi allan o’r ffordd ar y bore cyntaf ac yna ymgysylltu’n llawn â phopeth arall sydd ar gael.
Ar y cyfan, roedd y broses wedi’i threfnu a’i chefnogi’n dda, a byddwn i’n argymell i unrhyw YGG gymryd rhan yn naill ai’r sgyrsiau sydyn 3 munud neu gyflwyniad llawn yn y sesiwn YGG.”
Dyfarnwyd y wobr am y Sgwrs Sydyn Orau i gyn-fyfyriwr WGSSS, Dr Celia Netana (Llwybr Rheoli a Busnes, Prifysgol Caerdydd) am ei chyflwyniad pwerus “You’re only paid what the last person fighted for” (Rosenfeld, 2021). What has been won for Social Care workers in Wales? — Llongyfarchiadau, Celia!
Roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr WGSSS yn cyflwyno eu gwaith yn y prif sesiynau. Cafwyd cymaint o sgyrsiau diddorol, ac roedd yn wych clywed am y cynnydd sy’n cael ei wneud ar brosiectau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Llongyfarchiadau arbennig i fyfyriwr WGSSS, Luret Lar (Llwybr Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd) a enillodd y gystadleuaeth Papur Ymchwilydd Newydd Gorau. Teitl sgwrs Luret oedd Integration experiences of forced migrant women in Wales: A Nation of Sanctuary. Ysgrifenna Luret,

“Fe wnes i gais ar gyfer cynhadledd WISERD yn groes i’r graen, oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr pa mor hyderus y gallwn i gyfleu fy ymchwil mewn cynhadledd mor fawr. Pan dderbyniwyd fy nghrynodeb, roeddwn i’n gyffrous i weld Aberystwyth am y tro cyntaf, gan fy mod i wedi clywed am ei harddwch. Yna daeth y realiti brawychus fod yn rhaid i mi orffen fy sleidiau a gwneud cyflwyniad ymarferol 15 munud o hyd, a llwyddais i’w gwblhau ar fore’r cyflwyniad.
Ychydig cyn y cyflwyniad, roedd fy nerfau ar chwâl, ond fe wnes i annog fy hun i feddwl am ba mor arwyddocaol oedd lleisiau fy nghyfranogwyr, er gwaethaf rhai o’u profiadau annymunol. Roeddwn i eisiau arddangos llwyddiannau Cymru fel Cenedl Noddfa a sôn am ble roedd angen mwy o gefnogaeth ar y menywod mudol hyn sydd wedi’u dadleoli’n orfodol. A bod yn onest, roeddwn i jyst eisiau cyflwyno, gan obeithio na fyddai fy emosiynau yn mynd yn drech na mi. Diolch byth, llwyddais i gadw’r dagrau yn ôl gyda chyfnodau o dawelwch wrth i mi gyflwyno.
Gwnaeth clywed ’mod i wedi ennill y wobr Papur Cynhadledd Ymchwilydd Newydd fy atgoffa o bwysigrwydd canolbwyntio ar atebion yn hytrach na heriau. Mae’r cyfle hwn wedi ailadeiladu fy hyder, ac rwy’n siŵr y bydd yn sbardun i mi hefyd ysgogi, arwain ac annog eraill sy’n cerdded neu a fydd yn cerdded ar hyd yr un llwybr!”
Hoffem ddiolch i’r tîm WISERD cyfan am gynhadledd wych. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn barod at gynhadledd WISERD 2026!















