Cystadleuaeth 2025/26
Ar hyn o bryd rydym yn aros am gadarnhad gan yr ESRC ynghylch cam nesaf recriwtio Cymrodyr Ôl-ddoethurol. Cadwch lygad ar y dudalen hon am fanylion yn y dyfodol.
Mae’r cymrodoriaethau wedi’u hanelu at y rheiny ar ddechrau cam ôl-ddoethurol eu gyrfa, er mwyn cynnig y cyfle iddynt atgyfnerthu eu PhD drwy ddatblygu cyhoeddiadau, rhwydweithiau a’u sgiliau ymchwil a phroffesiynol.
Mae’r Cymrodoriaethau’n para blwyddyn (neu gyfnod cyfatebol yn rhan amser) a cheir cyflog. Gallant gynnwys rhywfaint o weithgarwch ymchwil newydd (hyd at 25%), ond eu prif ddiben yw atgyfnerthu eich proffil ymchwil yn fuan ar ôl cwblhau eich PhD yn llwyddiannus.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant
Mae’r DTP yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol
Arweiniad Ychwanegol
Mae gwefan yr ESRC yn cynnwys adnoddau ar baratoi cynigion ymchwil a gwybodaeth am foeseg, effaith ymchwil a datblygu prosiectau cydweithredol.
Mae pecyn cymorth effaith yr ESRC hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer datblygu strategaethau effaith.
Proffiliau Cymrodorion Ôl-ddoethurol
Cymerwch olwg ar broffiliau ein cymrodyr ôl-ddoethuriaeth presennol.
Cysylltwch
Os oes gennych chi gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan y cwestiynau cyffredin, cysylltwch â fellowships@wgsss.ac.uk.
