Datgloi Dyfodol Trefol: Ailfeddwl am Systemau Cynllunio wedi’u Harianoli ac Archwilio Dewisiadau Cynllunio Amgen yn Dilyn Twf
Dr Ying-Chun (Nancy) Hou
Llwybr: Cynllunio Amgylcheddol
Adran: Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Mentoriaid: Professor Oleg Golubchikov and Dr Abid Mehmood
Crynodeb o’r Prosiect
Cyflwynodd fy ymchwil PhD ymyriad gwreiddiol iawn a chysyniadol gyfoethog i astudio cynllunio trefol wedi’i arianoli a llywodraethu a arweinir gan y gymuned yn Nhaiwan. Cynigiodd yr ymchwil gyfraniadau deallusol amserol ac arloesol at feysydd arianoli trefol, cynllunio cymunedol, a chyfiawnder gofodol. Aeth i’r afael â bwlch nodedig trwy archwilio cyd-destun daearyddol Taiwan, sef ardal nad yw wedi cael llawer o sylw ysgolheigaidd. Trwy ddadansoddi diwygiadau cynllunio diweddar yn Nhaiwan, dangosodd yr astudiaeth y prosesau ar gyfer trosi anffurfioldeb trefol yn feysydd buddsoddi newydd ac archwiliodd sut oedd preswylwyr anffurfiol yn cael eu cynnwys mewn prosesau cyflawni cynllunio neu eu heithrio ohonynt. Tynnodd sylw at risgiau ‘cyfiawnder anfeidrol’ sy’n deillio o ideolegau a naratifau cynllunio a sbardunir gan yr economi a phwysleisiodd yr angen i archwilio dulliau amgen er mwyn sicrhau dyfodol cynllunio mwy cyfiawn a chynhwysol.
Mae’r traethawd ymchwil wedi cyfrannu’n sylweddol at sgyrsiau damcaniaethol a dealltwriaeth empirig yn y byd academaidd, llunio polisïau, ac arferion cynllunio yn Nhaiwan. Bydd y gymrodoriaeth hon yn cynyddu effaith fy ngwaith ymchwil i’r eithaf trwy gyhoeddiadau academaidd, cyflwyniadau, ac ymrwymiadau cyhoeddus yn Nhaiwan ac yng Nghymru. At hynny, mae’r gymrodoriaeth yn cynnig cyfle i feithrin cydweithrediadau ymchwil traws-genedlaethol a hyrwyddo agendâu newydd yn seiliedig ar fy ngwaith doethurol, a thrwy hynny cyfnerthu fy mhroffil sy’n dod i’r amlwg fel ymchwilydd ar ddechrau gyrfa.
Nodau’r Gymrodoriaeth
Amlinellir amcanion penodol y gymrodoriaeth hon fel a ganlyn:
- Cynhyrchu Cyhoeddiadau i Sefydlu Hanes: Yn ystod cyfnod y gymrodoriaeth, fy nod yw cynhyrchu dau bapur cyfnodolyn yn seiliedig ar fy ymchwil PhD i ledaenu canfyddiadau allweddol. Bydd y papur cyntaf yn cysyniadoli sut mae dulliau wedi’u harianoli yn cael eu defnyddio wrth atgynhyrchu anffurfioldeb, a’u hystyried o safbwynt ‘creu argyfwng’. Bydd yr ail bapur yn darparu dadansoddiad myfyriol o’r broses ymchwil PhD, gan dynnu ar safbwyntiau cynllunio ffeministaidd i fynd i’r afael â materion lleoliadaeth, atblygedd, a deinameg pŵer wrth gynnal ymchwil drefol yn ystod y pandemig. Daw mewnwelediadau ar gyfer y papur hwn o weithdy academaidd ar fethodoleg ymchwil.
- Gwella Sgiliau Ymgysylltu ag Ymchwil trwy Hyfforddiant Academaidd: Rwy’n bwriadu ceisio cyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddiant academaidd i wella fy sgiliau cyhoeddi mewn cyfnodolion ac ymgysylltu â’r cyhoedd, a thrwy hynny gefnogi datblygiad fy ngyrfa academaidd. Byddaf yn defnyddio’r adnoddau a gynigir gan Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd ac yn cymryd rhan yn Rhaglen Datblygu Ôl-ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gyfer hyfforddiant ychwanegol.
- Creu Rhwydweithiau Ymchwil Rhyngwladol trwy Gymryd Rhan mewn Cynadleddau: Rwy’n bwriadu cymryd rhan weithredol mewn cynadleddau rhyngwladol allweddol, megis yr EARCAG yng ngwanwyn 2025 yn Fukuoka, Japan, a Chynhadledd RGS-IBG a gynigir ar gyfer mis Awst 2025 yn Llundain. Bydd hyn yn fy ngalluogi i feithrin rhwydweithiau ymchwil newydd, sefydlu fy mhresenoldeb fel ymchwilydd ar ddechrau gyrfa yn y maes, a chael cipolwg ar y datblygiadau ymchwil rhyngwladol diweddaraf.
- Cynnal Gwaith Ymchwil Pellach a Datblygu Cynigion am Arian: Gan dynnu ar fyfyrdodau beirniadol o’m hymchwil PhD ar ddatblygiadau cynllunio wedi’u harianoli yn Nhaiwan a’u goblygiadau i gymunedau lleol, ynghyd â diwygiadau cynllunio diweddar yng Nghymru, fy nod yw ymchwilio’n ddyfnach i’r gwersi a ddysgwyd o ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar dwf o ran ei effeithiau ar yr amgylchedd a chymdeithas, gan gynnwys materion fel boneddigeiddio ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Bydd hyd at 25% o’m hamser yn cael ei neilltuo i gynnal gwaith ymchwil pellach, yn unol â gofynion y rhaglen. Nod y fenter hon yw gosod sylfaen ar gyfer ymdrechion ymchwil yn y dyfodol.
- Ymestyn Dylanwad Ymchwil ar Bolisi: Mae’r gymrodoriaeth yn gyfle arwyddocaol i wella effaith fy ymchwil ar lunio polisïau ac arferion cynllunio. Rwy’n bwriadu cynnull gweithdy rhyngwladol ar-lein o’r enw “Cynllunio yn y Dyfodol ac Argyfyngau Mentrau Cynllunio a Arweinir gan Dwf” i hwyluso trafodaethau cymharol o fewn y byd academaidd a llunio polisïau ar fentrau cynllunio yn dilyn twf ar lefel ryngwladol. Bydd y gweithdy’n ymgysylltu â llunwyr polisïau, cynrychiolwyr cymunedol, cynllunwyr, ac academyddion o’r Deyrnas Unedig a Thaiwan, gan feithrin trafodaethau rhyngddisgyblaethol ac archwilio dulliau cynllunio amgen i gyflawni datblygiad trefol cyfiawn a chynhwysol.
Cyngor i ddarpar ymgeiswyr
Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrio ar fy nhaith PhD ac ystyried cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol wrth ddatblygu’r cynnig. Rwy’n dal i ddysgu, ond credaf fod hunanfyfyrio’n hollbwysig: Beth ydw i wedi’i gyflawni? Beth ydw i wir eisiau ei ddilyn? Mae’n bwysig bod y cynnig yn ymarferol, gydag amserlen glir a chynllun ariannol i gyflawni’r amcanion. Byddwch yn uchelgeisiol ond yn realistig. Yn ogystal, mae ceisio adborth gan fentoriaid a chymheiriaid yn hanfodol i benderfynu a yw’r cynnig yn addawol ac yn argyhoeddiadol. Mae ysgrifennu ceisiadau am grantiau yn grefft, a gorau arf arfer. Mae’n bwysig peidio â chael eich digalonni gan wrthodiadau – mae pob cynnig yn gyfle i ddysgu sy’n helpu i fireinio a gwella ar gyfer y rownd nesaf!
Cyhoeddiadau
Chiang, Y.-H., Chien, L.-L., & Hou, Y.-C. (forthcoming). Housing Unaffordability Worsening
Through Market-led Urban Renewal Schemes as Profit-Extracting Machines:
Comparative Perspectives from London and Taipei. ArchitectureMPS. UCL Press.
Hou, Y.-C., & Lin, W-I. (under review). Shaping, Practicing, and Governmentalisation of the Planning Designscape around Tongji University, Shanghai. Journal of City and Planning.
Hou, Y.-C. (submitted). Orchestrating Urban Financialisation through Urban Intermediatory Organisations? A Case Study of Taipei Housing and Urban Regeneration Centre in Taiwan. Environment and Planning C: Politics and Space.