Cymrawd Ôl-ddoethurol : Mariana Sousa Leite


Crynodeb o’r Prosiect

Mae tua hanner y cleifion sy’n cael triniaeth ffrwythlondeb yn gorffen y broses heb y plant y maent yn eu dymuno. Mae hyn yn aml yn arwain at deimladau cryf, parhaol o alar, tristwch, a cholled, ac iechyd meddwl a lles gwael. Mae cleifion yn aml yn dweud eu bod yn teimlo nad ydynt yn barod, bod eu clinigau wedi cefnu arnynt, a’u bod wedi’u gadael ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn pan fo angen cymorth arnynt fwyaf. Er bod canllawiau ffrwythlondeb a rheoleiddwyr yn dweud y dylai clinigau gefnogi cleifion pan nad yw’r driniaeth yn gweithio, mae gwybodaeth ac adnoddau’n ddifrifol brin. Edrychodd fy ymchwil doethuriaeth ar farn ac anghenion cleifion mewn perthynas â’r cymorth y dylent ei gael pan nad yw’r driniaeth yn gweithio. Datblygais ddau fath o gymorth: rhaglen cymorth wyneb yn wyneb o’r enw Y Tu Hwnt i Ffrwythlondeb i helpu cleifion i ymdopi â gorffen y driniaeth heb blentyn, ac adnoddau ar-lein ar gyfer clinigau a chleifion i helpu clinigau i gynorthwyo eu cleifion i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o wynebu’r canlyniad hwn nas dymunir. Datblygwyd yr olaf trwy adborth gan gleifion, eiriolwyr cleifion, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent ar gael yn rhwydd ar-lein mewn pedair iaith (www.myjourney.pt/clinics, www.myjourney.pt/patients).

Mae fy ngwaith eisoes wedi ysgogi trafodaethau a diddordeb ynglŷn â’r pwnc hwn. Mae’r posibilrwydd o driniaeth aflwyddiannus yn tueddu i gael ei osgoi mewn clinigau (ac ymchwil), gyda phwyslais ar feithrin gobaith a chyflawni beichiogrwydd. Mae fy ngwaith yn dadlau nad yw hyn yn cyd-fynd â dymuniadau cleifion ac mae’n pwysleisio’r ddyletswydd glinigol i baratoi cleifion ar gyfer diwedd y driniaeth. Dangosodd fy ngwaith fod 9 o bob 10 claf eisiau bod yn barod ar gyfer y posibilrwydd na fydd y driniaeth yn gweithio, hyd yn oed cyn dechrau’r driniaeth, fel rhan o’r drefn arferol. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn honni bod y cymorth hwn yn hollbwysig, ond nid ydynt yn gwybod sut a phryd i gyflwyno’r pwnc i’w cleifion. Nid oeddent yn ymwybodol bod cleifion eisiau’r cymorth hwn ac roeddent yn pryderu nad oedd cleifion yn barod i siarad amdano, gan fynegi ymatebion negyddol na allent ymdopi â nhw yn yr ymgynghoriad, neu farnu eu perfformiad meddygol yn negyddol. Cynhaliais bum astudiaeth sy’n darparu’r sylfaen wybodaeth i ysgogi newid mewn clinigau ac i arfogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn well mewn perthynas â beth, pryd, a sut i ddarparu’r gofal hwn tua diwedd y driniaeth.


Nodau’r Gymrodoriaeth

Yn ystod fy nghymrodoriaeth, fy nod yw cyhoeddi a rhannu’r gwaith hwn yn eang ac ysgogi newidiadau bach mewn arferion clinigol. Mae hyn yn cynnwys cyrraedd cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, addysgwyr, a swyddogion ffrwythlondeb y llywodraeth a all helpu i newid arferion clinigau. Rwy’n bwriadu gwneud hyn trwy siarad mewn cynadleddau gwyddonol blaenllaw, mentrau addysgol, a digwyddiadau cyhoeddus a defnyddio sianeli’r cyfryngau (newyddion, blogiau, cyfryngau cymdeithasol). Byddaf yn gweithio gyda sefydliadau ffrwythlondeb (elusennau cleifion, cymdeithasau gwyddonol) ar lefel ryngwladol/genedlaethol i sicrhau bod fy adnoddau cymorth ar gael yn rhwydd ar eu gwefannau, llywio cwricwlwm cyrsiau addysgol i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cael tystiolaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar ddarparu’r gofal hwn, a gweithio gyda rheoleiddiwr ffrwythlondeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynghori ar ddarparu’r gofal hwn i glinigau.


Byddaf yn defnyddio fy nghymrodoriaeth i gynllunio ar gyfer fy ngyrfa. Byddaf yn gweithio gyda dau dîm ymchwil blaenllaw ym Mhrifysgol De Montfort a Phrifysgol Southampton i ehangu’r dull hwn o ofalu am y boblogaeth yn gyffredinol. Hynny yw, cynorthwyo pobl o oedran atgenhedlu i benderfynu os ydynt am gael plant a sut, gan gynnwys eu paratoi ar gyfer rhwystrau posibl. Yn ystod y cyfnod hwn, byddaf yn cael hyfforddiant ar ddefnyddio ymchwil i wneud newidiadau yn y byd go iawn ac mewn arferion ymchwil ac academaidd da.


Cyngor i ddarpar ymgeiswyr

Yn seiliedig ar fy mhrofiad, byddwn yn eich cynghori i gynllunio ymlaen llaw wrth wneud cais am gyllid ymchwil. Dechreuwch baratoi eich cais ymhell ymlaen llaw i ganiatáu amser ar gyfer ymchwilio, ysgrifennu, adolygu, a mireinio’ch cynnig. Gwnewch yn siŵr fod y cyfle ariannu’n cyd-fynd â’ch cenhadaeth ymchwil ac yn cyfrannu’n sylweddol at eich nodau, gan eich helpu i symud ymlaen i’r cyfeiriad yr ydych yn anelu ato. Wrth ysgrifennu, byddwn yn awgrymu eich bod yn diffinio eich amcanion yn glir ac yn manylu ar eich methodoleg yn drylwyr. Amlinellwch y manteision tymor byr a thymor hir, gan nodi pwy fydd yn elwa o’ch canfyddiadau. Darparwch linell amser realistig, trafodwch eich syniadau, a cheisiwch adborth gan gydweithwyr a mentoriaid. Neilltuwch amser i fyfyrio a gwneud cynnig cadarn. Gobeithio y bydd yr adborth hwn yn ddefnyddiol i chi. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes angen unrhyw arweiniad neu gyngor pellach arnoch – rwy’n falch o gefnogi darpar ymgeiswyr!


Cyhoeddiadau

Sousa Leite, M. 2024. ‘What if we never make it!? What’s going to happen to us?’: Routine psychosocial care to promote patients’ adjustment to the end of unsuccessful fertility treatment. PhD Thesis, Cardiff University. https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/168829

Sousa-Leite, M., Costa, R., Figueiredo, B., & Gameiro, S. (2023). Discussing the possibility of fertility treatment being unsuccessful as part of routine care offered at clinics: patients’ experiences, willingness, and preferences. Hum Reprod, 38(7), 1332-1344. https://doi.org/10.1093/humrep/dead096

Sousa-Leite, M., Fernandes, M., Reis, S., Costa, R., Figueiredo, B., & Gameiro, S. (2022). Feasibility and acceptability of psychosocial care for unsuccessful fertility treatment. Health Expect, 25(6), 2902-13. https://doi.org/10.1111/hex.13598

Sousa-Leite, M., Figueiredo, B., ter Keurst, A., Boivin, J., & Gameiro, S. (2019). Women’s attitudes and beliefs about using fertility preservation to prevent age-related fertility decline – a two-year follow-up. Patient Educ Couns, 102(9), 1695-1702. https://doi.org/10.1016/j.pec.2019.03.019 Gameiro, S., Sousa-Leite, M., & Vermeulen, N. (2019). How do ESHRE members use and evaluate the ESHRE guidelines? Hum Reprod Open, 2019(3), hoz011. https://doi.org/10.1093/hropen/hoz011


Gwefan: https://profiles.cardiff.ac.uk/staff/sousaleitem

Twitter: https://x.com/msousaleite

LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/mariana-sousa-leite-90694b164/