Polisi Iaith a Lles Teuluol Amlieithog: Ideolegau, Strategaethau a Phrofiadau Ieithyddol
Dr Kaisa Pankakoski
Llwybr: Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd
Adran: Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Mentor: Dr Frances Rock
Crynodeb o’r Prosiect
Archwiliodd fy PhD 14 o deuluoedd astudiaeth achos trawswladol yng Nghymru a’r Ffindir. Rwy’n cyflwyno gwybodaeth heriol am brofiadau teuluoedd wrth reoli llawer o ieithoedd ac yn archwilio atebion trosglwyddo iaith.
Mae fy astudiaeth yn cynnwys data gan blant, sy’n ddull newydd ym maes Polisi Iaith Teulu (gweler e.e., Bui et al. 2022, Lee 2018; Wilson 2020). Mae’r astudiaeth ddoethurol hefyd yn torri tir newydd drwy ymchwilio i ddwy ardal amrywiol iawn sy’n ddwyieithog yn swyddogol: Helsinki a Chaerdydd. Rwy’n archwilio lles teuluoedd amlieithog; pwnc sydd wedi denu diddordeb ymchwil yn ystod y degawd diwethaf yn unig. Rwyf hefyd yn canolbwyntio ar deuluoedd amlieithog yn hytrach na dwyieithog. Astudiaethau achos unigol yw’r rhan fwyaf o astudiaethau Polisi Iaith Teulu, ond mae fy ymchwil yn astudiaeth achos luosog sy’n cynnig amrywiaeth o gymunedau iaith yn hytrach nag un gymuned yn unig. Yn ogystal, mae fy ymchwil yn cyflwyno pob un o’r tri phrototeip Polisi Iaith Teulu (Smith-Christmas 2016); siaradwyr ieithoedd lleiafrifol; a siaradwyr iaith dreftadaeth dramor mewn cyd-destun gwasgaredig, lle yr edrychaf ar gyd-destunau gydag un rhiant sy’n fewnfudwr yn ogystal â theuluoedd lle mae’r ddau riant yn fewnfudwyr.
Mae fy ymchwil yn dangos bod trosglwyddo iaith rhwng cenedlaethau, neu drosglwyddo ieithoedd i’r genhedlaeth nesaf, yn aml yn heriol i deuluoedd trawswladol. Mae angen i rieni a phlant wneud cryn ymdrech i gynnal neu ddatblygu iaith dramor (sy’n aml yn iaith dreftadaeth) oherwydd y grymoedd cymdeithasol-ieithyddol naturiol sy’n gwneud i’r plant ffafrio’r ieithoedd cymunedol cryfach. Ystyrir ei bod yn haws trosglwyddo ieithoedd swyddogol gwlad oherwydd gall rhieni ddewis o blith amrywiaeth eang o ysgolion, hobïau, gwarchodwyr plant, a grwpiau cymunedol mewn iaith darged; mae’r rhain yn hybu trosglwyddo iaith. Felly, mae cysylltiad cryf rhwng cryfder demograffig iaith a pha mor anodd ydyw i rieni drosglwyddo iaith. Mae fy ymchwil ddoethurol yn datgelu bod yr heriau’n codi’n aml o ddisgwyliadau rhieni ynglŷn â materion fel methiant i fodloni datblygiad ieithyddol y plant, strategaethau llym rhieni, rhwystrau cyfathrebu, neu wrthwynebiad y plant i siarad iaith.
Mae tri phrif amcan i’r gymrodoriaeth.
Yn gyntaf, byddaf yn cyhoeddi fy ymchwil fel monograff, dwy erthygl, a llyfr gwaith i rieni. Byddaf yn parhau i ysgrifennu postiadau blog ac erthyglau ar-lein yn Saesneg a Ffinneg ar gyfer gwefannau cyfathrebu gwyddoniaeth.
Yn ail, byddaf yn lledaenu fy ymchwil i gynulleidfaoedd ehangach trwy amrywiaeth o weithgareddau effaith ac ymgysylltu. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys: cyflwyniadau mewn cynadleddau; darlithoedd gwadd yn y Ffindir a’r Deyrnas Unedig; gweithdai i rieni; a chynhyrchu cyfres o bodlediadau sy’n poblogeiddio fy mhwnc ymchwil.
Yn olaf, byddaf yn cynnal gwaith ymchwil cyfyngedig pellach ymhlith y 14 o deuluoedd yn yr astudiaeth achos wreiddiol. Bydd yr ymchwil yn ehangu’r pynciau yr ymchwiliwyd iddynt i raddau llai a restrir uchod. Nid oes llawer o ymchwil hydredol, yn enwedig yn cynnwys blynyddoedd yr arddegau, a dyna pam mae parhau â’m hastudiaeth achos luosog ar ôl PhD yn gyfle gwerthfawr.
Cyfeiriadau
Bui, T. M. T. et al. 2022. Including children’s voice in family language policy: an exploration of the tensions between mothers’ and children’s language beliefs. Journal of Multilingual and Multicultural Development, tud.(au) 1-17. doi: https://doi.org/10.1080/01434632.2022.2077353
Lee, H. Y. H. 2018. The Effect of Multicultural Family Structures on the Language Attitudes of Children and Adolescents. GEMA Online® Journal of Language Studies 18(1), tud.(au) 122-139. doi: https://doi.org/10.17576/gema-2018-1801-08
Smith-Christmas, C. 2016. Family language policy: New directions. Yn: Macalister, J. a Mirvahedi, S.H. goln. Family Language Policies in a Multilingual World – opportunities, challenges, and consequences. Llundain: Routledge, tud.(au) 23-39.
Wilson, S. 2020. Family Language Policy: Children’s Perspectives. Cham: Palgrave Macmillan.
Goals for the Fellowship
Mae fy nghynllun allgymorth cyhoeddus a lledaenu academaidd yn cynnwys lledaenu canlyniadau fy ngwaith ymchwil yn ddwys. Yn ystod y gymrodoriaeth, byddaf yn parhau i gysylltu ag academyddion, addysgwyr, gweithwyr proffesiynol, a theuluoedd. Fy nod yw canolbwyntio ar saith prif dasg, fel a ganlyn:
- Gorffen trosi fy nhraethawd ymchwil PhD yn fonograff;
- Gwneud gwaith ymchwil dilynol ymhlith y 14 o deuluoedd yn yr astudiaeth achos PhD wreiddiol (Teitl dros dro: Canfyddiadau pobl ifanc a rhieni amlieithog yn Helsinki a Chaerdydd);
- Cyflwyno fy ngwaith ymchwil PhD, a chanfyddiadau newydd mewn cynadleddau;
- Ysgrifennu erthygl cyfnodolyn academaidd am ganfyddiadau fy ngwaith ymchwil dilynol;
- Cyfuno fy sgiliau fel newyddiadurwr ac ymchwilydd i gynhyrchu cyfres newydd o bum podlediad wedi’u hanelu, yn amrywiol, at rieni plant amlieithog, addysgwyr, a chyrff polisi perthnasol;
- Cynnal dau weithdy wedi’u hanelu at rieni plant a allai fod yn ddwyieithog neu’n amlieithog;
- Llunio cynnig ar gyfer llyfr gwaith, wedi’i anelu at rieni plant amlieithog.
Cyngor i ddarpar ymgeiswyr
Mae’r broses ymgeisio’n amlweddog, gyda sawl rownd o geisiadau, felly dechreuwch gynllunio’n gynnar. Darganfyddwch bwy yw’ch rhanddeiliaid a gwnewch ymdrech o ran gweithgareddau effaith yn ystod eich PhD!
Lluniais gynllun cymrodoriaeth ac yna euthum ati i chwilio am fentor addas o fewn Prifysgol Caerdydd oherwydd roeddwn eisiau aros yn lleol. Roeddwn eisiau dod o hyd i rywun a fyddai â diddordebau ymchwil tebyg i mi a phrofiad a allai helpu i ddatblygu fy ngyrfa.
Mae gan fy mentor cymrodoriaeth, sef Dr Frances Rock, brofiad helaeth o gyhoeddi fel prif awdur, gweithgareddau effaith, a gweithio gyda gwahanol randdeiliaid mewn cyd-destunau amlieithog sy’n cynnwys teuluoedd a phlant. Ar ben hynny, mae hi’n berson gwych, felly rydw i mor ddiolchgar iddi gytuno i fod yn fentor i mi!
Roedd y staff yn fy ysgol newydd yn gefnogol i’r cais, ac roedd y rheolwr ymchwil Emma Wallis yn gymwynasgar iawn wrth helpu i drefnu’r ochr ariannol.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y bydd methiannau a llwyddiannau yn y byd academaidd; nid yw fy holl brosiectau yn y gorffennol wedi cael eu hariannu. Y llwyddiannau y mae angen i ni eu dathlu mwy!