Dr Shaun Williams, Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Aberystwyth
Teitl: Dataeiddio beicio
Yn ystod fy ymchwil ddoethurol, astudiais sut mae prosesau ‘dataeiddio’, fel casglu, prosesu a rhannu ‘data mawr’ a gynhyrchir gan ddyfeisiau clyfar, yn dylanwadu ar sut y caiff cynlluniau polisïau beicio eu cyflwyno.
Wrth weithio fel cymrawd ôl-ddoethurol, fy ngham nesaf fydd ceisio cyhoeddi canfyddiadau ymchwil doethurol mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw a adolygir gan gymheiriaid. Ar ben hynny, byddaf hefyd am gyfrannu at gynadleddau ymchwil pwysig, gan gynnwys Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at ddadleuon ymchwil sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys cyfiawnder data symudedd Behrendt a Sheller (2023), ac yn hynod berthnasol i arbenigwyr ac ymarferwyr polisi teithio llesol.
Ochr yn ochr â’r gymrodoriaeth hon, rydw i hefyd yn gweithio i elusen teithio llesol yng Nghymru. Rydw i hefyd yn aelod o Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK), a’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTraM), Prifysgol Aberystwyth.
Ebost: shw45@aber.ac.uk