Lles a Thrawsnewid Cymdeithasol: Gwneud Gwyddor Lles yn Rhan o Bolisïau, Ymyriadau, a Llywodraethu

Dr Lowri Wilkie
Llwybr: Seicoleg
Adran: Ysgol Seicoleg
Prifysgol: Prifysgol Abertawe
Mentor: Professor Andrew Kemp
Crynodeb o’r Prosiect
Bydd fy nghymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn cydgrynhoi ac yn ehangu fy ymchwil mewn gwyddor lles, gan hyrwyddo ei defnydd ym meysydd gofal iechyd, polisi ac ymarfer cymunedol. Wedi’i seilio ar fframwaith GENIAL—model bioseicogymdeithasol sy’n cysylltu lles unigol, cyfunol, a phlanedol—cynhyrchodd fy PhD y meta-ddadansoddiad rhwydwaith cyntaf ar raddfa fawr o ymyriadau lles. Gwerthusais hefyd fodelau lles cymunedol megis Cydlynu Ardal Leol gan ymgorffori gofal sy’n canolbwyntio ar les mewn gwasanaethau niwro-adsefydlu. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, bydd fy nghymrodoriaeth yn canolbwyntio ar drosi’r canfyddiadau hyn yn effaith academaidd, glinigol a pholisi bellach. Byddaf yn cyhoeddi allbynnau PhD allweddol, gan gynnwys y meta-ddadansoddiad rhwydwaith a phapur damcaniaethol sy’n ymwneud â lles. Byddaf hefyd yn creu dogfen bolisi sy’n cynnig argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymgorffori gwyddor lles mewn systemau gofal iechyd i fynd i’r afael â baich cynyddol clefydau cronig. Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn ymgymryd â hyfforddiant mewn gwerthuso economaidd i gryfhau perthnasedd ymarferol a chyllidol polisïau lles, ac yn cydweithio â Chanolfan Astudiaethau Myfyriol Prifysgol Melbourne i ehangu partneriaethau ymchwil rhyngwladol.
Nodau ar gyfer y Gymrodoriaeth
Drwy gyfrwng y gymrodoriaeth hon, rwy’n gobeithio cyflawni pedwar nod allweddol Yn gyntaf, byddaf yn cyhoeddi fy ymchwil PhD er mwyn cryfhau sylfeini empirig gwyddor lles a llywio’r broses o gynllunio ymyriadau yn y dyfodol. Yn ail, byddaf yn ymgymryd â hyfforddiant mewn gwerthuso economaidd a dadansoddi polisïau a fydd yn fy ngalluogi i gyfuno tystiolaeth lles â data ynglŷn â chost-effeithiolrwydd er mwyn gwneud argymhellion mwy perswadiol ar gyfer polisi. Yn drydydd, byddaf yn cyd-ddatblygu dogfen bolisi mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid y GIG, gan amlinellu strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori egwyddorion lles ym maes cynllunio gofal iechyd ac atal clefydau cronig. Yn olaf, byddaf yn creu cydweithrediadau rhyngwladol parhaus trwy ymweliad ymchwil â Phrifysgol Melbourne, gan ymgysylltu ag arbenigwyr ym meysydd lles ac ymchwil fyfyriol. O ystyried yr heriau byd-eang presennol o ran iechyd, cydlyniant cymdeithasol a chynaliadwyedd, mae’r nodau hyn yn anelu at helpu i wneud lles pobl a’r blaned yn rhan o bolisïau a llywodraethu.
Cyngor i ddarpar ymgeiswyr
Byddwn yn argymell bod darpar ymgeiswyr yn uchelgeisiol wrth feddwl am effaith gymdeithasol eu hymchwil. Rydym yn wynebu heriau byd-eang—newid hinsawdd, anghydraddoldeb, a datgysylltiad eang—ac mae’n rhaid i waith academaidd gyfrannu at atebion. Rwy’n credu bod gan ymchwilwyr gyfrifoldeb i ddefnyddio gwyddoniaeth i helpu pobl a’r blaned mewn ffyrdd ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wrth ddylunio eich cynnig, canolbwyntiwch ar sut y gall eich gwaith greu newid go iawn: dylanwadu ar systemau, llywio polisïau, a chryfhau cymunedau. Meddyliwch am bwy sy’n elwa, sut y bydd canfyddiadau’n cael eu defnyddio, a sut y gall cydweithio ehangu effaith. Dylai ymchwil fynd y tu hwnt i greu gwybodaeth i ddatblygu gwelliannau ystyrlon, mesuradwy ym meysydd lles a chynaliadwyedd. Nid yn unig y mae’r ffordd hon o feddwl yn cryfhau eich cais, ond mae hefyd yn rhoi pwrpas go iawn a gwerth parhaol i’ch gwaith.
Cyhoeddiadau
Erthyglau Cyfnodolyn
Arroyo, P., Wilkie, L., Davies, E., Fisher, Z., & Kemp, A. H. (2024). Thriving in the wake of a storm: A systematic qualitative review & meta-synthesis on facilitating post-traumatic growth in patients living with Acquired Brain Injury. Neuropsychological Rehabilitation, 1-27. https://doi.org/10.1080/09602011.2024.2356891
Gibbs, K., Wilkie, L., Jarman, J., Barker-Smith, A., Kemp, A. H., & Fisher, Z. (2022). Riding the wave into wellbeing: A qualitative evaluation of surf therapy for individuals living with acquired brain injury. PloS One, 17(4), e0266388. https://doi.org/10.1371/journal.pone.0266388
Tulip, C., Fisher, Z., Bankhead, H., Wilkie, L., et al. (2020). Building wellbeing in people with chronic conditions: A qualitative evaluation of an 8-week positive psychotherapy intervention. Frontiers in Psychology, 11, 66. https://doi.org/10.3389/fpsyg.2020.00066
Wilkie, L., Arroyo, P., Conibeer, H., Kemp, A. H., & Fisher, Z. (2021). The impact of psycho-social interventions on the wellbeing of individuals with acquired brain injury during the COVID-19 pandemic. Frontiers in Psychology, 12, 648286. https://doi.org/10.3389/fpsyg.2021.648286
Wilkie, L., Fisher, Z., & Kemp, A. H. (2022). The ‘Rippling’ Waves of Wellbeing: A Mixed Methods Evaluation of a Surf-Therapy Intervention on Patients with Acquired Brain Injury. Sustainability, 14(15), 9605. https://doi.org/10.3390/su14159605
Wilkie, L., Fisher, Z., & Kemp, A. H. (2022). The Complex Construct of Wellbeing and the Role of Vagal Function. Frontiers in Integrative Neuroscience, 16, 925664. https://doi.org/10.3389/fnint.2022.925664
Wilkie, L., Roderick, S., Fisher, Z., Dray, A., Granger, P., & Kemp, A. H. (2025). Improving Wellbeing Through Local Communities: A Mixed Methods Study on the Role of Relationship Building.Journal of Happiness Studies. 10.1007/s10902-025-00871-x
Wilkie, L., Fisher, Z., Kemp, A. H., Charles, S., & Fletcher, J. (2025). ‘We’re not daft, we’re not stupid, we can still learn’–the impact of informal science learning on wellbeing in acquired brain injury. International Journal of Science Education, Part B, 1-15. https://doi.org/10.1080/21548455.2025.2556047
Penodau Llyfrau
Fisher, Z., Wilkie, L., Hamill, A., & Kemp, A.H. (2024). Theories of wellbeing, practical applications, and implications for coaching. In The Wellbeing Coaches Handbook. Routledge. DOI:10.4324/9781003319016-4
Wilkie, L. (2023). Posttraumatic Growth in Acquired Brain Injury. In The Routledge International Handbook of Posttraumatic Growth. https://doi.org/10.4324/9781032208688-41
Website: https://www.lowriwilkie.com/
LinkedIn: linkedin.com/in/lowri-wilkie-827530140
ORCID: https://orcid.org/0000-0001-8446-4926
ResearchGate: https://www.researchgate.net/profile/Lowri-Wilkie
Ebost: l.s.wilkie@swansea.ac.uk
