Dr Jen Thomas, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe
Teitl: Integreiddio ymarfer corff gyda therapïau seicolegol er mwyn hybu lles a newid ymddygiad pobl ifanc dan anfantais gymdeithasol.
Roedd fy ymchwil PhD yn archwilio a ellid defnyddio ymarfer corff i annog pobl ifanc â phrofiad o fod yn ddigartref i ymgysylltu â therapi seicolegol. Drwy gyflwyno ymyriadau sy’n seiliedig ar ymarfer corff naill ai gyda neu heb therapi ychwanegol, roedd fy nghanfyddiadau ymchwil yn awgrymu’r canlynol:
- Mae gan ymarfer corff y potensial i gynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â phrofiad o fod yn ddigartref â seicotherapi grŵp.
- Gall ymarfer corff ar ei ben ei hun (heb therapi) fod yr un mor effeithiol ar gyfer gwella iechyd a lles.
Roedd y canfyddiadau yn dangos mai rhoi cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill oedd yr elfennau pwysicaf ar gyfer hybu lles a newid ymddygiad. Roedd cyfraniadau eraill i’r maes hwn yn cynnwys nodi rhwystrau a galluogwyr wrth ddarparu cyfleoedd ar sail gweithgareddau ar gyfer gwella iechyd a lles y boblogaeth hon.
Mae’n bwysig bod y canfyddiadau hyn yn cyrraedd y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc â phrofiad o fod yn ddigartref ac o fudd iddynt, a’u bod hefyd yn cael eu cymhwyso i gymunedau ehangach a allai fod mewn perygl o fod ag iechyd meddwl gwael, ac sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn ymarfer corff.
Bydd y gymrodoriaeth hon yn fy ngalluogi i drosi’r ymchwil hon i arferion gwaith, drwy drefnu digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth a datblygu ‘pecyn cymorth’ yn cynnwys adnoddau y gall ymarferwyr eu defnyddio yn y cyd-destun hwn. Rydw i hefyd yn bwriadu cyhoeddi dwy erthygl mewn cyfnodolion: un yn esbonio sut y gall technegau penodol ar gyfer darparu ymarfer corff hybu lles ac ymddygiadau cadarnhaol; ac un sy’n cynnig fframwaith ar gyfer cyflwyno ymyriadau gyda’r boblogaeth hon. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl, byddaf hefyd yn cyflwyno’r ymchwil hon mewn cynadleddau yn y DU a rhai rhyngwladol.
Fy nod hirdymor yw gwneud gwaith pellach ar y canfyddiadau PhD drwy arwain prosiect ymchwil ar raddfa fawr mewn partneriaeth â gwasanaethau sector cyhoeddus. Er mwyn cyflawni hyn, rwy’n awyddus i ymgysylltu â sefydliadau lleol a llunwyr polisïau, er mwyn deall yr heriau presennol yn well, ac archwilio’r potensial ar gyfer datblygu cynnig ar y cyd am gyllid grant.