Datblygu cymorth rhagweithiol ar gyfer iechyd meddwl athletwyr: Gan ddechrau gyda chriced

Dr George Ely
Llwybr: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Adran: Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît
Prifysgol: Prifysgol Bangor
Mentors: Professor Ross Roberts a Professor Lynne Evans (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
Crynodeb o’r Prosiect
Yn ystod y gymrodoriaeth, byddaf yn parhau i gydweithio â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) a’r Professional Cricketers’ Association (PCA) ar droi fy ymchwil PhD yn adnoddau a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl cricedwyr. Ar ben hynny, byddaf yn treulio amser yn dadansoddi data rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu adnodd cymorth iechyd meddwl presennol yr ECB ymhellach, gan gynnig tystiolaeth o sut y gallwn ni gefnogi iechyd meddwl athletwyr yn rhagweithiol yn yr holl chwaraeon proffesiynol. Ar wahân i weithgareddau ymchwil, byddaf hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel addysgu, yn cyflwyno mewn cynadleddau, yn dysgu technegau dadansoddi newydd, yn cyflwyno ceisiadau am grantiau ac yn datblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid. Ar y cyfan, y gobaith yw y bydd y prosiect yn gam ymlaen rhwng gorffen fy PhD a dod o hyd i rôl barhaol ym maes ymchwil a/neu addysg a fydd yn fy ngalluogi i barhau â’m gwaith am flynyddoedd i ddod.
Nodau ar gyfer y Gymrodoriaeth
- Gwella fy CV academaidd drwy gyhoeddi mewn cyfnodolyn blaenllaw a thrwy roi cyflwyniadau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
- Datblygu fy sgiliau ymchwil ymhellach. Yn benodol, bydd angen defnyddio Dysgu Peirianyddol i fynd i’r afael yn briodol â’n cwestiynau ymchwil sy’n ymwneud â chymorth rhagweithiol ar gyfer iechyd meddwl athletwyr, o ystyried y data sydd gennym.
- Datblygu rhwydwaith proffesiynol presennol y byd criced a meithrin perthnasoedd newydd â darpar sefydliadau y tu allan i’r byd criced (ac o bosibl y tu allan i faes chwaraeon).
- Ennill profiad o addysgu.
Yn fwy cyffredinol, erbyn diwedd y gymrodoriaeth, bydd yn bwysig i mi fod wedi dod o hyd i’r cam nesaf yn fy ngyrfa a’r gobaith yw y byddaf yn llwyddo i wneud hynny trwy gyflawni’r nod uchod.
Cyngor i ddarpar ymgeiswyr
Byddwn i’n argymell cysylltu â rhywun sydd eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am y gymrodoriaeth hon, neu o leiaf academydd sydd â phrofiad o wneud ceisiadau am grantiau, i gael cyngor ar ble i ddechrau. Mae’n dasg eithaf mawr a brawychus, sydd â llawer o wahanol ddarnau sydd oll â chyfyngiadau geiriau/tudalennau llym ac y mae angen i bob un ohonyn nhw ddod at ei gilydd. Bydd cael eu cyngor ar ble i roi pethau yn helpu i wneud i’r dasg deimlo’n llawer haws i’w rheoli. Ar ben hynny, roedd darllen ceisiadau llwyddiannus yn ddefnyddiol i mi, gan i mi ddysgu bod gwahaniaethau bychain i’w cael wrth i rywun ysgrifennu cais am gyllid academaidd o’i gymharu â sut rydyn ni’n arfer ysgrifennu fel academyddion.
Publications
Cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid
Ely, G., Roberts, R., Woodman, T., Jones, E., Evans, L., Cropper, M., & Peirce, N. (2025). Exploring professional cricketers’ well-being: Insights and influences. Journal of Applied Sport Psychology, 1–21.
Ely, G., & Ronkainen, N. J. (2019). “It’s not just about football all the time either”: Transnational athletes’ stories about the choice to migrate. International Journal of Sport and Exercise Psychology, 1–14.
Ely, G., Woodman, T., Roberts, R., Jones, E., Wedatilake, T., Sanders, P., & Peirce, N. (2023). The impact of living in a bio-secure bubble on mental health: An examination in elite cricket. Psychology of Sport and Exercise, 68, 102447.
Ely, G., Woodman, T., Roberts, R., Jones, E., Williams, L., & Peirce, N. (2025). A Three‐Year Longitudinal Study of Athlete Mental Health: A Cricket Case Study. Scandinavian Journal of Medicine & Science in Sports, 35(9), e70125.
Williams, C., Wooden, J., Ely, G. & MacDonald, J. (2025). Babi Actif: Helping parents to actively enjoy the outdoors with their baby. International Journal of Birth and Parent Education.
Twitter: @GElySportPsych
LinkedIn: George Ely
Ebost: George.Ely@Bangor.ac.uk
