Cyfleoedd am Hyfforddiant yn y DU

Rhagor o hyfforddiant Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae ein cydweithwyr yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn cynnig cyfres o weithdai, seminarau a chynadleddau, wedi eu hanelu at y rhai sydd â diddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn un o’n partneriaid strategol ac mae ganddynt Rwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa genedlaethol er mwyn i ymchwilwyr o’r fath gwrdd, dysgu a chydweithio.  Mae’r rhwydwaith rhyngddisgyblaethol hwn ar agor i unrhyw un sy’n ystyried eu bod nhw’n Ymchwilydd ar Ddechrau eu Gyrfa yng Nghymru.  Gallwch chi gofrestru am ddim ac mae’r rhwydwaith yn cynnig rhaglen o weithgareddau sydd yn canolbwyntio ar Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa er mwyn gwella’u sgiliau a’u gallu. Gallwch hefyd gofrestru i gael Cylchlythyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru i glywed y newyddion ac am y digwyddiadau diweddaraf.

Ar gyfer ysgolheigion sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n dysgu Cymraeg neu sy’n ei defnyddio yn rhywfaint o’u gweithgareddau ymchwil dydd i ddydd, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr i ysbrydoli ac i annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, gyda’r nod o greu gweithlu dwyieithog. Maen nhw’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi drwy’r Porth Adnoddau a digwyddiadau rheolaidd.  

Mae llawer o’n partneriaid strategol eraill yn cynnig hyfforddiant pwrpasol sy’n ymwneud â’u nodau a’u hamcanion penodol, ac mae modd gweld y rhain drwy bori ar eu tudalennau gwe neu drwy gysylltu ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC.


Hyfforddiant Gwyddorau Cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig

Mae’r ESRC yn ariannu amrywiaeth o wasanaethau data a dulliau i gefnogi ymchwil ac astudio.  Mae’n darparu’r adnoddau sydd eu hangen i gael mynediad at ddata economaidd-gymdeithasol o safon uchel ac i ddatblygu sgiliau ymchwil. Y gwasanaethau hyn yw:

  • Gwasanaeth Data y Deyrnas Unedig: mae’n darparu mynediad at gasgliad o dros 6,000 o setiau data economaidd-gymdeithasol o safon uchel.  Mae’n cefnogi defnyddwyr data ac yn gweithio i wella rheoli data.
  • Mae’r Ganolfan Astudiaethau Hydredol (CLS) yn rheoli pedair astudiaeth garfan ym Mhrydain: Astudiaeth Genedlaethol ar Ddatblygiad Plant 1958, Astudiaeth Carfan Prydain 1970, Camau Nesaf, ac Astudiaeth Carfan y Mileniwm.
  • Mae CLOSER yn hyrwyddo’r defnydd o ymchwil hydredol. Mae’r adnoddau allweddol yn cynnwys rhestrau darllen a chrynodebau o ganfyddiadau, a phorth chwilio i helpu i weld pa ddata a gasglwyd ym mhob un o’r naw astudiaeth ym mhartneriaeth CLOSER.
  • Mae Understanding Society yn arolwg hydredol mawr o tua 40,000 o gartrefi’r Deyrnas Unedig. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am yr arolwg, yn ogystal ag erthyglau ymchwil, adroddiadau a briffiau polisi yn seiliedig ar yr arolwg hwn.
  • Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol yn galluogi ymchwilwyr achrededig i gael mynediad diogel at ddata gweinyddol dienw ar gyfer ymchwil sydd â budd posibl i’r gymdeithas.
  • Mae Hwb Astudiaethau Hydredol Data Cyfrifiad a Gweinyddol yn galluogi ymchwilwyr i gael mynediad at ddata hydredol yn seiliedig ar y cyfrifiad a ddewiswyd o gofnodion y cyfrifiad dros amser, yn ogystal â deunydd cysylltiedig o setiau data gweinyddol eraill (fel data iechyd).
  • Y Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol yw’r corff aelodaeth proffesiynol ar gyfer ymchwilwyr cymdeithasol, ac mae’n cynnig rhaglen i ategu eu datblygiad proffesiynol.
  • Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil yn cefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil.  Mae’n cynnal cronfa ddata helaeth o gyrsiau hyfforddi dulliau ymchwil (gweler isod).

Mae pob gwasanaeth yn darparu cymorth ac yn cyflwyno hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd, a gallwch gysylltu â nhw os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant pwrpasol.


Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM) yn rhedeg eu digwyddiadau hyfforddi eu hunain. Fel ymchwilydd gwyddor gymdeithasol ôl-raddedig mewn sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, gallwch fynd i’r rhain am gost o ddim mwy na £30 y diwrnod.

Mae’r NCRM hefyd yn rhestru hyfforddiant ar ddulliau ymchwil a gynigir gan y rhwydwaith cyfan o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol ledled y Deyrnas Unedig.

Gellir gweld pob un o’r rhain, a llawer o ddigwyddiadau eraill, yng nghronfa ddata hyfforddi NCRM.