Mae ymchwil gan Ymchwilydd PHD Cymru, Emily Marchant (Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Abertawe), ar fanteision dysgu yn yr awyr agored wedi cael ei gyhoeddi gan gyfryngau ar draws y byd. Canfu’r astudiaeth fod awr neu ddwy o ddysgu yn yr awyr agored bob wythnos yn ennyn diddordeb plant, yn gwella’u llesiant ac yn cynyddu boddhad athrawon yn y swydd. Bu allfeydd newyddion gan gynnwys The Conversation, Metro, CBS Boston, the Mother Nature Network ac eraill yn rhannu canfyddiadau o’r astudiaeth.