Beth yw YGGCC?

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o’r radd flaenaf ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw.


Mae YGGCC yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe. Fel aelod cyswllt o YGGCC, mae Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn ein gwaith ar y cyd i hyfforddi a datblygu ymchwilwyr.   

Mae YGGCC yn elwa ar bartneriaethau strategol gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Rydym yn cydweithio’n agos â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Rydym yn adeiladu ac yn datblygu enw da am gydweithio ar hyfforddiant doethurol llwyddiannus yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru – mae YGGCC a’i ragflaenydd yn cynnig tua 70 o ysgoloriaethau ôl-raddedig newydd bob blwyddyn. Rydym yn paratoi myfyrwyr doethuriaeth ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynhyrchu gwybodaeth a meithrin galluoedd deallusol a sgiliau ymchwil sy’n galluogi cyfraniadau eithriadol at ddatblygiad amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

Mae YGGCC yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi eu hachredu gan ESRC, sy’n fodd i fyfyrwyr PhD gael mynediad at hyfforddiant ymchwil o safon yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd.


Amcanion Strategol

Mae gan y YGGCC bum prif amcan strategol:

  1. Cynyddu nifer yr ysgoloriaethau ymchwil sy’n cael eu cyllido yn y Gwyddorau Cymdeithasol;
  2. Parhau i fanteisio i’r eithaf ar amrywiaeth, swm a bywiogrwydd y cyfleoedd i ymchwilwyr ôl-radd yn y gwyddorau cymdeithasol weithio gyda sefydliadau anacademaidd;
  3. Galluogi ac annog y sylweddoliad o weithio’n rhyngddisgyblaethol, o fewn a thu hwnt y gwyddorau cymdeithasol, ar lefel prosiect i fyfyrwyr, llwybr YGGCC a thrwy gyfranogiad cyffredinol yn yr amgylchedd hyfforddi;
  4. Darparu hyfforddiant ymchwil sy’n parhau i feithrin gallu ar gyfer ymchwil, cynhyrchu gwybodaeth a chyfnewid gwybodaeth yn ac er budd Cymru a’r Deyrnas Unedig;
  5. Parhau i ddatblygu a gwella’r amgylchedd ymchwil rhagorol ar gyfer hyfforddiant doethurol.

Amcanion cyffredinol

Mae gan y Bwrdd yr amcanion cyffredinol a ganlyn hefyd:

  • Nodi a hyrwyddo hyfforddiant ymchwil o’r ansawdd uchaf yng Nghymru a thu hwnt;
  • Cyfoethogi ac ymestyn yr hyfforddiant ymchwil hwn o ran dull a chyrhaeddiad;
  • Sicrhau bod yr ymchwil hyfforddiant yn unol â chanllawiau ESRC a’i fod yn ymgorffori amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau a datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth eang o ddulliau a ffyrdd;
  • Meithrin cysylltiadau â sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sy’n cynorthwyo ysgoloriaethau ymchwil doethurol, yn ariannol a/neu mewn nwyddau;
  • Meithrin cymuned arfer ymhlith myfyrwyr doethurol fel eu bod yn dod yn aelodau o strwythur Gwyddoniaeth cymdeithasol Cymru gyfan yn ychwanegol at eu hunaniaethau disgyblaethol a sefydliadol, mewn modd a fydd o gymorth iddynt ac y gallant gyfrannu ato.