Fel arweinwyr ymchwil cydnabyddedig, mae gan y chwe sefydliad sy’n rhan o YGGCC enw da iawn am hyrwyddo gwybodaeth drwy ymchwil ac addysgu o ansawdd uchel, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ddod yn rhan o gymuned fywiog sydd yn ffynnu ar archwilio a darganfod. Darperir hyfforddiant ymchwil drwy un o’n llwybrau achrededig.
- Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
- Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
- Ymchwil ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
- Ymchwil ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw
- Ymchwil ym Prifysgol De Cymru
- Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe
Canolfannau ymchwil a YGGCC
Caiff llawer o’r llwybrau YGGCC eu gwella drwy waith arloesol canolfannau ymchwil sefydledig. Mae gan y rhain enw da am gydweithio a chyfuno arbenigedd ymchwil i fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol ac economaidd anoddaf yng Nghymru a thu hwnt. Maent yn cynnwys WISERD (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe), Canolfan Llywodraethiant Cymru (Caerdydd), Sefydliad Materion Cymdeithasol a Diwylliannol (Bangor), Uned Ymchwil Economaidd Cymru (Caerdydd), a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe), DECIPHer (Caerdydd, Abertawe a Bryste).