Ysgoloriaethau

Mae YGGCC yn dyfarnu dros 70 o ysgoloriaethau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) bob blwyddyn ar draws 15 llwybr achrededig wedi’u lleoli mewn 7 prifysgol sy’n cydweithio.    


Mae dwy gystadleuaeth ar gyfer ysgoloriaethau YGGCC; y Gystadleuaeth Gyffredinol, a’r Gystadleuaeth Gydweithredol.  


Cyllid   

Mae ysgoloriaethau YGGCC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£19,237 ar hyn o bryd) ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.    

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gyllid

Mae YGGCC wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i hyrwyddo cynwysoldeb. Mae’n bosib y bydd unrhyw fyfyriwr sy’n gorfod talu costau ychwanegol mewn perthynas â’u hastudiaethau oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, yn gymwys i gael grantiau drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.  

Gall y Lwfans dalu am offer a threuliau bob dydd ac am gynorthwywyr anfeddygol fel gweithwyr cymorth, tiwtoriaid arbenigol, cymorth llyfrgell a swyddog cymryd nodiadau (mae angen hawlio costau llungopïo a nwyddau traul drwy eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil). Nid yw swm pob lwfans yn sefydlog ac fe’i pennir yn unol ag anghenion unigol pob myfyriwr.   

Ar ôl derbyn ysgoloriaeth ymchwil YGGCC, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trafod unrhyw anghenion cymorth ychwanegol gyda’ch sefydliad cartref yn y lle cyntaf, gan roi gwybod i’r Swyddog Anabledd perthnasol eich bod yn cael eich hariannu gan yr ESRC.   


Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae YGGCC wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred na chyfeiriadedd rhywiol.  Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynyddu recriwtio gan grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd, rydym yn annog ac yn croesawu’n benodol geisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, pobl o leiafrifoedd ethnig a hil gymysg Prydeinig, y rhai sy’n gadael gofal ac ymgeiswyr sy’n byw ag anableddau. Rydym yn gweithio i gael gwared ar rwystrau i astudio i bawb ac fel rhan o’n proses recriwtio i adolygu eich cais yn ei gyfanrwydd. Rydym yn gwerthfawrogi myfyrwyr o bob cefndir a phrofiad bywyd.  

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae anghydraddoldebau strwythurol hanesyddol ac arferion gwahaniaethol mewn addysg wedi arwain at dangynrychiolaeth o gymunedau penodol yn y byd academaidd. Mae YGGCC wedi ymrwymo i nodi ac i fynd i’r afael ag effeithiau’r gwahaniaethu hwn ar ei phrosesau a’i dyfarniadau ei hun. Mae mesurau sy’n gyson â Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys menter sy’n caniatáu llwybrau i gyflwyno enwebiad ysgoloriaeth ychwanegol yn eu cystadleuaeth gyffredinol am ysgoloriaethau, ar yr amod bod o leiaf un o’r ymgeiswyr hynny o gefndir Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, hil gymysg Prydeinig neu o leiafrifoedd ethnig Prydeinig. Gwahoddir pob ymgeisydd i nodi’r ffyrdd y mae eu profiad bywyd a’r heriau y maent wedi’u hwynebu yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymuned YGGCC.   

Mae rhagor o wybodaeth am strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y YGGCC ar gael ar ein tudalen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.  


Pwy sy’n gymwys

Mae ysgoloriaethau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gael i fyfyrwyr sy’n dangos drwy eu cymwysterau academaidd a’u cyflawniadau eraill eu bod wedi’u cymhwyso’n dda i wneud ymchwil ddoethurol. Mae gradd israddedig dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu gymhwyster cyfatebol) mewn disgyblaeth berthnasol yn bwysig. A ninnau’n gwerthfawrogi rhagoriaeth, rydyn ni’n ceisio ehangu cyfranogiad ac yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi mynd i brifysgolion y tu allan i ‘Grŵp Russell’ yn ogystal â phrifysgolion sy’n aelodau ohono.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gymhwysedd

Ni chaniateir i fyfyrwyr amser llawn sydd wedi sicrhau ysgoloriaeth gan ESRC fod â swydd amser llawn, swydd rhan-amser barhaol na swydd dros dro am gyfnod estynedig o amser yn ystod cyfnod y dyfarniad. Ni chaniateir i fyfyrwyr rhan-amser sydd wedi sicrhau ysgoloriaeth gan ESRC fod â swydd amser llawn.

Mae ysgoloriaethau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol (gan gynnwys myfyrwyr yr UE a’r AEE) ar gyfer mynediad o fis Hydref 2023 ymlaen. Bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael dyfarniad llawn sy’n cynnwys talu cyflog cynnal a chadw a ffioedd dysgu yn ôl y gyfradd ar gyfer sefydliadau ymchwil yn y DU. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion newydd ar gyfer bod yn gymwys i gael ysgoloriaeth gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan UKRI.


Mathau o Ysgoloriaethau ymchwil

Mae hyd y cyfnod astudio yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddiant a fydd yn cael eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol ar y cam ymgeisio, a Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn cyn ei ddyfarnu os yn llwyddiannus. Yn seiliedig ar hyn, gall hyd y dyfarniad amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd amser llawn (neu gymhwyster rhan-amser cyfatebol). Mae anghenion hyfforddiant yn cael eu nodi a’u diwallu ar sail hyblyg a phwrpasol drwy’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, a gaiff ei wirio yn ystod pob blwyddyn astudio. Nid yw cymhwyster lefel meistr fel arfer yn cael ei gynnwys yn y dyfarniad, er y gellir ei gynnig lle nodir hynny gan lefel yr hyfforddiant blaenorol, ac i sicrhau hygyrchedd dyfarniadau YGGCC.  

Hyd Dyfarniadau


Dadansoddiad o Anghenion Datblygu

Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (neu DNA) yw’r broses y mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn ei defnyddio i bennu anghenion hyfforddi’r rhai sy’n cael ysgoloriaethau ganddi. Mae’r broses hon yn ein helpu ni i gynllunio ein darpariaeth hyfforddi a hefyd i bennu hyd y dyfarniad rydyn ni’n ei roi i dderbynwyr ysgoloriaethau, yn unol â’r anghenion hyfforddiant rydyn ni’n eu nodi.  

Mae ysgoloriaeth PhD ESRC yn golygu mwy na chyflwyno prosiect ymchwil gwych yn unig. Mae’n bwysig ei hystyried fel rhaglen hyfforddi lefel uchel sy’n arwain at greu Gwyddonwyr Cymdeithasol amryddawn, sy’n gallu mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd. Bydd y broses DNA yn eich helpu i feddwl yn ehangach am eich datblygiad personol a phroffesiynol, ac nid dim ond am anghenion y prosiect ymchwil penodol y byddwch chi’n gweithio arno. Efallai bod hyn yn ffordd wahanol o edrych ar radd PhD o gymharu â’r ffordd draddodiadol, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi feddwl ychydig yn wahanol hefyd. 

Ein nod yw eich cefnogi chi a’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr academaidd i lunio cynllun hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion penodol chi, sy’n hyblyg ac sy’n cyfrannu at yr ystod lawn o sgiliau ddylai fod gan wyddonydd cymdeithasol sy’n graddio o raglen hyfforddiant doethurol. Rydyn ni’n mapio hyn ar sail Canllawiau Datblygiad Ôl-raddedig yr ESRC, a chaiff ei groesgyfeirio â’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae. Mae’n bosibl y bydd anghenion hyfforddi yn cael eu diwallu drwy gyfuniad o gyrsiau yn y sefydliad cartref a chyfleoedd hyfforddi ehangach a ddarperir gan ein rhwydwaith o gydweithredwyr sydd un ai ar-lein, neu wyneb yn wyneb yn achlysurol.

Mae dau gam i’r broses DNA. Y DNA cychwynnol (iDNA) a’r DNA Llawn. 


Cyfweliadau  

Bydd pob myfyriwr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth YGGCC, os yw’n cyrraedd y rhestr fer, yn cael ei gyfweld gan banel o academyddion yn y llwybr y maent wedi gwneud cais i astudio ynddo. Gellir cynnal cyfweliadau ar-lein neu wyneb yn wyneb. Rydym yn awyddus i gefnogi cyfranogiad gan bob myfyriwr, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i’r tîm derbyn myfyrwyr os oes gennych unrhyw addasiadau rhesymol.   


 Gweminarau ‘Sut i…’  

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd YGGCC gweminarau ar gyfer myfyrwyr â diddordeb a darpar ymgeiswyr ar ‘Sut i wneud cais’ a ‘Sut i ysgrifennu cynnig ymchwil’.

Isod mae recordiadau o’r sesiynau gweminar hyn.