Meddyliau Cyntaf am Leoliad – Sherina Lowe

Enw:  Sherina Lowe
Blwyddyn: Myfyrwraig PhD yn yr ail flwyddyn
Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sefydliad Lletyol:  Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg


Dywedwch wrthym am eich lleoliad

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymyriadau i gynyddu faint o bobl sy’n cael profion am firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed (HIV, Hepatitis B ac C) ymhlith poblogaethau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol, gan gyfrannu at Gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Ddileu Firysau sy’n cael eu Cludo yn y Gwaed. Rwy’n defnyddio fframwaith COM-B i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol ac yn defnyddio technegau ymchwil ansoddol a meintiol i nodi’r ffactorau sy’n rhwystro ac yn hwyluso cynnal profion o fewn gwasanaethau megis carchardai, clinigau iechyd rhywiol, a rhaglenni camddefnyddio sylweddau.


Y manteision hyd yn hyn

Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd. Ochr yn ochr â hynny, mae’r lleoliad yn helpu i wella fy sgiliau ymchwil a deall ymddygiad pobl yn well mewn perthynas â phrofion.

Rydw i wrth fy modd â’r lleoliad, ac rydw i wedi dysgu llawer ac yn teimlo’n ddiolchgar fy mod i’n cael gweithio gyda chydweithwyr hyfryd a chefnogol. Ond, bu’n rhaid wrth ychydig o amynedd gan iddi gymryd amser i mi gael mynediad at systemau ac ati.


Awgrymiadau i gyd-fyfyrwyr PhD

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dechrau lleoliad yw eich bod yn ei ddefnyddio fel cyfle i archwilio swyddi sydd y tu allan i’r llwybr gyrfa ymchwil arferol, efallai y byddwch chi’n synnu at y cyfleoedd, a dylech fanteisio hefyd ar y cyfle i feithrin cysylltiadau proffesiynol ystyrlon.


Os hoffech gael cymorth i gydlynu eich lleoliad, cysylltwch â’r Cydlynydd Lleoliadau Ymchwil mewn Ymarfer – Sian Shepherd esrcrip@bangor.ac.uk

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol a chyfleoedd lleoliad cyfredol yma.

Fe gewch ddiweddariadau rheolaidd ynglŷn â lleoliadau newydd drwy’r sianel Teams Ymchwil mewn Ymarfer yma.