Iechyd a Llesiant a Gwyddorau Data

Pob Llwybr > Cymdeithas a Lles 
Sefydliadau:
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
Cynullydd Llwybr:

Dr Aaron Lacey (a.s.lacey@swansea.ac.uk)

Prifysgol Abertawe,

Cysylltiadau Llwybr:
  • Prof Tossapon Boongoen (tob45@aber.ac.uk)

    Prifysgol Aberystwyth,

  • Prof Val Morrison (v.morrison@bangor.ac.uk)

    Prifysgol Bangor,

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Mae’r Llwybr Iechyd, Lles a Gwyddor Data yn cyfuno dulliau arsylwadol, disgrifiadol a rhai sy'n seiliedig ar dreialon â setiau data mawr ar raddfa poblogaeth i ddarparu tystiolaeth ar heriau iechyd mwyaf enbyd ein cymdeithas. Mae ein hymchwil yn llywio'r broses o lunio polisïau ar sail tystiolaeth i gefnogi pobl i wneud dewisiadau ynghylch byw'n iach a/neu i fyw’n well gyda salwch ac anabledd. Yn fwy penodol, mae’r Llwybr hwn yn archwilio’r amgylchedd adeiledig a chymdeithasol a’r effaith y mae’r rhain yn ei chael ar nifer o ganlyniadau iechyd a/neu gymdeithasol.

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Mae gan y llwybr enw rhagorol yn fyd-eang am ymchwil gwyddor data ac am gynnig syniadau newydd mewn perthynas â materion iechyd a chymdeithasol. Mae Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor yn cynnig hyfforddiant craidd mewn dulliau gwyddorau cymdeithasol a chryfderau sy'n ategu ei gilydd mewn disgyblaethau penodol a hyfforddiant uwch. Gall myfyrwyr ar draws y llwybr a YGGCC gael mynediad at fodiwlau ar wyddor data uwch, cyfrifiadura ar gyfer gwyddor data, ystadegau uwch a dulliau ansoddol a meintiol uwch eraill. Mae’r llwybr yn cynnwys myfyrwyr yn Aberystwyth a Bangor mewn digwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb i wella rhwydweithio a chefnogaeth gan gymheiriaid trwy ddigwyddiadau cymdeithasol, cynadleddau blynyddol y llwybr, modiwlau a ddarperir ar ffurf blociau, gweithdai rhyngddisgyblaethol, a chyfres o ddigwyddiadau “Croeso” i fyfyrwyr newydd er mwyn cynyddu cyfleoedd i gwrdd ag eraill ac integreiddio. Mae cyfleoedd hyfforddi eraill yn cynnwys SuMMeR CDT a'r Rhwydwaith Hyfforddiant Ewropeaidd ar Ofal Anffurfiol (Bangor) a ariennir gan Marie Curie; Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (Abertawe); ac UKRI AIMLAC CDT (Aberystwyth). Mae'r holl gyfleoedd hyn yn sicrhau rhaglen hyfforddi PhD ragorol lle mae ein myfyrwyr yn datblygu'n ymchwilwyr amlddisgyblaethol cyflawn.

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    Mae'r llwybr yn cefnogi dyheadau gyrfaol a datblygiad sgiliau myfyrwyr PhD drwy Ddadansoddiad Anghenion Datblygu YGGCC ar ddechrau'r ysgoloriaeth ymchwil sy'n sicrhau bod y rhaglen hyfforddi wedi'i theilwra ar gyfer pob myfyriwr. Mae gennym bartneriaethau hirsefydlog gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, ADR UK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth y DU a Senedd y DU. Rydym hefyd yn gweithio gyda llawer o asiantaethau cenedlaethol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Cyfoeth Naturiol Cymru, Mind a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae’r llwybr hwn yn cefnogi cydweithio, cyd-gynhyrchu a lleoliadau gwaith gyda llawer o’r sefydliadau hyn sy’n cefnogi datblygiad gyrfaol ein myfyrwyr. Mae’r sectorau y gallai myfyrwyr PhD o’r Llwybr Iechyd, Lles a Gwyddor Data gael swyddi ynddynt yn cynnwys maes polisïau iechyd cyhoeddus, gwyddor data, a rheoli adnoddau.