Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (DNA)

Beth yw’r DNA, eto?

Os oes gennych chi ysgoloriaeth YGGCC ar hyn o bryd, a ddyfarnwyd i chi yn 2024 neu’n hwyrach, yna byddwch chi wedi cael cyflwyniad i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (DNA) yn ystod y broses ymgeisio. Byddwch chi’n cofio am y ddau gam o’r DNA y mae pob ysgolhaig yn ei gwblhau (DNA cychwynnol a DNA llawn), a byddwch chi wedi bod trwy un cylch DNA o leiaf.

Mae’r DNA yn disodli’r dadansoddiad o anghenion hyfforddi (TNA), y bydd ysgolheigion cyn 2024 yn fwy cyfarwydd ag e. Mae hyn mewn ymateb i’r ddogfen Adolygiad o’r PhD gan yr ESRC, a wnaeth ystod o argymhellion ynghylch sut dylid diwygio’r arlwy hyfforddiant i fyfyrwyr doethuriaeth.

Os ydych chi ar y dudalen hon ond nad ydych chi’n ysgolhaig ar hyn o bryd, yna’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (DNA) yw’r broses y mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn ei defnyddio i bennu beth yw anghenion hyfforddi’r bobl sy’n cael ysgoloriaethau ganddi. Mae’r broses hon yn ein helpu ni i gynllunio ein darpariaeth hyfforddi a hefyd i bennu hyd y dyfarniad rydyn ni’n ei roi i dderbynwyr ysgoloriaethau, yn unol â’r anghenion hyfforddiant rydyn ni’n eu nodi.  Mae’r manylion ynghylch sut mae cylch cyntaf y DNA yn gweithio ar ein tudalennau cystadleuaeth ysgoloriaethau.

Mae ein proses DNA yn pwysleisio bod ysgoloriaeth PhD ESRC yn golygu mwy na chyflwyno prosiect ymchwil gwych. Mae’n bwysig ei hystyried fel rhaglen hyfforddi lefel uchel sy’n arwain at greu Gwyddonwyr Cymdeithasol amryddawn, sy’n gallu mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd. Mae’r broses DNA yn helpu ysgolheigion i feddwl yn ehangach am eu datblygiad personol a phroffesiynol, ac nid dim ond am anghenion y prosiect ymchwil penodol maen nhw’n gweithio arno. Efallai bod hyn yn ffordd wahanol o edrych ar radd PhD o gymharu â’r ffordd draddodiadol, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi feddwl ychydig yn wahanol hefyd. 


Ein nod craidd yw:

Cefnogi pob ysgolhaig a’u goruchwyliwr/goruchwylwyr academaidd i lunio cynllun hyfforddiant, bob blwyddyn, sydd:

  • wedi’i deilwra i’w hanghenion penodol
  • mor hyblyg â phosibl o ran pryd a sut maen nhw’n astudio
  • yn bodloni’r ystod lawn o sgiliau ddylai fod gan wyddonydd cymdeithasol sy’n graddio o raglen hyfforddiant doethurol.

Pryd mae angen cyflawni’r DNA?

Mae’r DNA yn broses gydweithredol sy’n cynnwys yr ysgolhaig, eu goruchwyliwr/goruchwylwyr academaidd, ac Arweinydd Hyfforddiant YGGCC. Rydyn ni’n cydweithio i nodi anghenion yr ysgolhaig, gan ystyried eu profiadau hyfforddi blaenorol.

Caiff y DNA ei ailadrodd yn flynyddol. Byddwn ni’n cysylltu’n uniongyrchol â’r ysgolheigion a’u goruchwylwyr pan ddaw’n bryd cwblhau’r DNA, ond gallwch hefyd gysylltu ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC os hoffech wneud cais am DNA, neu os hoffech dynnu eu sylw at angen hyfforddiant penodol sydd wedi dod i’r amlwg.

Gallwch hefyd argymell sesiynau hyfforddi yr hoffech fynd iddyn nhw. Er mwyn gwneud hynny, anfonwch e-bost at Arweinydd Hyfforddiant YGGCC gan ddefnyddio’r wybodaeth ar frig y dudalen hon.


Beth am fynediad at hyfforddiant?

Rydyn ni’n defnyddio ymagwedd ‘mewnol yn gyntaf’ pan ddaw at ddarparu hyfforddiant, ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r timau datblygu ymchwil ym mhob un o’r prifysgolion sy’n rhan o’r cynllun. Bydd y tîm datblygu ymchwil yn eich sefydliad yn cysylltu â chi ar ddechrau’ch astudiaethau a thrwy gydol eich rhaglen, i gefnogi mynediad at hyfforddiant sydd wedi’i nodi yn y DNA. Byddan nhw eisoes wedi cael briff ynghylch eich anghenion, a byddan nhw’n cynnig rhaglen wedi’i theilwra i fynd i’r afael â nhw. Os oes angen hyfforddiant nad yw ar gael yn sefydliad cartref yr ysgolhaig, yna mae modd i ni ddefnyddio ein darpariaeth hyfforddiant cyfunol i gael mynediad at yr hyfforddiant hwnnw gan brifysgolion partner eraill, partneriaid strategol, cydweithwyr a darparwyr hyfforddiant annibynnol fel y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil. Rydyn ni hefyd yn comisiynu ystod o hyfforddiant arloesol, fel y modiwl Dyfodol a ddatblygwyd gan y tîm yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd.


Sut lluniwyd y DNA?

Os hoffech wybod mwy am sut datblygon ni’r broses DNA, gallwch ddarllen rhai o’r dogfennau a ysbrydolodd y gwaith. Rydyn ni’n mapio’r broses DNA ar sail Canllawiau Datblygiad Ôl-raddedig yr ESRC, a chaiff ei chroesgyfeirio â’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae. Rydyn ni hefyd yn cydweithio gyda Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol eraill ESRC yn y broses ddylunio, yn benodol gydag Ysgol Raddedig yr Alban ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (sy’n gweithredu strwythur tebyg i ni). Mae anghenion hyfforddi yn cael eu diwallu drwy gyfuniad o gyrsiau yn y sefydliad cartref a chyfleoedd hyfforddi ehangach a ddarperir gan ein rhwydwaith o gydweithredwyr a phartneriaid strategol.


Arweinydd Hyfforddiant YGGCC
Dr Peter Wootton-Beard
Ysgol y Graddedigion, Prifysgol Aberystwyth
pcw1@aber.ac.uk
+44 (0) 1970 62 2942