Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid.
Mae’r buddsoddiad mewn partneriaethau hyfforddiant doethurol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’w weledigaeth newydd sy’n adlewyrchu canfyddiadau’r Adolygiad o PhD yn y Gwyddorau Cymdeithasol a gynhaliwyd yn 2021. Bydd y rhain yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant er budd datblygiad proffesiynol i wella sgiliau ymgeiswyr doethurol yn ogystal â datblygu gweithlu medrus ac o’r radd flaenaf ar gyfer y DU.
Mae YGGCC yn dynodi carreg filltir i’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Gan adeiladu ar lwyddiant Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, rydym yn cael ein cryfhau gan aelodau newydd o brifysgolion eraill, grŵp pwerus o bartneriaid strategol, ac ymrwymiad cryf gan randdeiliaid. Bydd YGGCC yn meithrin ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol o bob cefndir. Bydd yn rhoi hyfforddiant rhagorol ac yn eu paratoi’n ymarferol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru a ledled y byd.
Dywedodd yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr YGGCC.
Menter gydweithredol yw YGGCC rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant yn aelod cyswllt ac yn cymryd rhan yn y gwaith ar y cyd i hyfforddi a datblygu ymchwilwyr.
Bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gyd mewn ymchwil a hyfforddiant ym maes y gwyddorau cymdeithasol ôl-raddedig. Bydd YGGCC yn darparu hyd at 360 o ysgoloriaethau ar draws 5 carfan flynyddol o 2024 ymlaen. Bydd yn creu cymuned integredig o ymchwilwyr ar draws Cymru drwy Blatfform Hyfforddi cyffredin gyda chymorth ESRC, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a phrifysgolion partner.
Gan gydweithio’n agos â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd yn cynorthwyo myfyrwyr a goruchwylwyr y gwyddorau cymdeithasol ym meysydd datblygu gyrfaoedd, lles a chynhwysiant. Mae ESRC yn rhoi £18.5 miliwn i YGGCC, ac mae’n cael swm cyfatebol drwy gyfraniadau gan brifysgolion partner yn ogystal â buddsoddiad o £1.5 miliwn a mwy gan bartneriaid strategol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae hyn yn newyddion gwych ac yn gadarnhad amlwg o gryfder cyfunol y prifysgolion sy’n rhan o’r bartneriaeth. Gyda’n gilydd mae gennym brofiad helaeth o gynnal ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n cael effaith amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar ein cymunedau ac yn ehangach ar draws y DU a thu hwnt.
Mae’r bartneriaeth hon yn fuddsoddiad enfawr a hynod arwyddocaol mewn ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithasol. Bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu gwyddonwyr cymdeithasol sydd â’r adnoddau i gynnal ymchwil effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a chynnig atebion i heriau cymdeithasol cymhleth sy’n newid o hyd. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu i ddatblygu gyrfaoedd ôl-raddedigion, yn rhoi hwb i’w lles, yn ogystal ag arwain at fwy o gynhwysiant.
Hoffwn ddiolch i’r Athro Harrington a’i dîm ar draws y bartneriaeth a weithiodd mor galed ar y cais llwyddiannus hwn ac edrychaf ymlaen at gadw llygad ar gynnydd y bartneriaeth dros y blynyddoedd nesaf.
Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner:
Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod yn rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Mae gan Brifysgol De Cymru brofiad helaeth a nodedig o gynnal ymchwil effeithiol yn y gwyddorau cymdeithasol/maes polisïau, fel y gwelwyd yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 pan ddaethom i’r brig yng Nghymru am effaith. Rydym yn ymfalchïo, nid yn unig yng nghryfder ein hymchwil, ond hefyd y cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i’n myfyrwyr, ac mae’r ffaith i ni gael ein henwi’r brifysgol orau yn y DU yn yr arolwg diweddar o brofiad ymchwil ôl-raddedig yn adlewyrchu hynny. Bydd bod yn rhan o YGGCC yn hwb ychwanegol i’r cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant sydd ar gael i fyfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ledled Cymru a thu hwnt.
Athro Martin Steggall, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesedd, Prifysgol De Cymru
Rydym am i hyfforddiant ôl-raddedig ddatblygu ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol sy’n gallu cystadlu ar draws y byd. Rydym hefyd am iddyn nhw allu gweithredu mewn cyd-destunau rhyngddisgyblaethol, cydweithredol, ac mewn ymateb i heriau ar draws ystod o sectorau, a meddu ar amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau.
Bydd yr hyfforddiant doethurol hwn sydd wedi’i ehangu ac ar ei newydd wedd yn gwella’r profiad i fyfyrwyr PhD ac yn rhoi hwb i alluoedd yn y DU.
Cadeirydd Gweithredol ESRC, Stian Westlake
Cafodd cais YGGCC ei ddisgrifio fel un ‘rhagorol’ a’i ganmol gan ESRC am ei weledigaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a’i gynlluniau ar gyfer interniaethau a datblygu gyrfaoedd.
Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am ysgoloriaethau drwy Gystadleuaeth YGGCC ar gyfer 2024 – 2025 ar gael ar wefan YGGCC.