Bydd cystadleuaeth Ysgoloriaeth Gydweithredol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn cael ei lansio ganol mis Mawrth 2025. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD cydweithredol wedi’i ddiffinio ymlaen llaw (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2025/26) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau. Dydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gydweithredol YGGCC.
Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd hefyd (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).
Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gyffredinol. Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun.
2025 Amserlen y Gystadleuaeth Gydweithredol
Canol Mawrth 2025 | Ceisiadau Cystadleuaeth Gydweithredol yn agor Bydd y prosiectau sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ganol mis Mawrth. |
Mai / Mehefin 2025 | Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau. |
Mai / Mehefin 2025 | Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC Mae ceisiadau gan fyfyrwyr ar gyfer prosiectau penodol yn cael eu hadolygu gan banel o Is-grŵp Cystadleuaeth Bwrdd Rheoli YGGCC. |
Mai / Mehefin 2025 | Cytuno ar y dyfarniadau Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth. |
Mehefin 2025 | Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael. |
Mehefin 2025 | Prosesu cynigion ffurfiol |
Mehefin 2025 | Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol |
Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer y cais
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu’r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais. Mae angen cyflwyno’r dogfennau hyn erbyn y dyddiad cau.
Os bydd unrhyw ddogfen ar goll o’ch cais, bydd yn cael ei ystyried fel cais anghyflawn ac ni fydd yn gallu symud ymlaen i’r cam rhestr fer.
Ffurflen gais am Ysgoloriaeth YGGCC
Rhaid llenwi holl adrannau’r ffurflen hon a chyflwyno manylion eich prosiect a’ch gwybodaeth bersonol.
Dau eirda academaidd neu broffesiynol
Rhaid i’r ymgeiswyr ofyn i’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Rhaid i’r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
Dau eirda academaidd neu broffesiynol
Rhaid i’r ymgeiswyr ofyn i’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Rhaid i’r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
Trawsgrifiadau a Thystysgrifau Gradd
Gan gynnwys cyfieithiadau os yw’n berthnasol
Os yw’n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg
Gweler gofynion sefydliadol ar gyfer mynediad
Sut i wneud Cais
Cam 1 – Dewis prosiect
Bydd y prosiectau sydd ar gael yn cael eu hysbysebu isod, ni fydd prosiectau Cydweithredol ar gael gan bob prifysgol a llwybr yn YGGCC. Cynghorir chi i gysylltu â phrif oruchwyliwr y prosiect y mae gennych ddiddordeb ynddo i fynegi eich diddordeb.
Cam 2 – Gwneud cais i’r sefydliad o’ch dewis
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prosiect, gwnewch gais ffurfiol gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau yn yr hysbyseb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol yn eich cais. Rhaid anfon pob dogfen erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn.
Cam 3 – Adolygu’r cais
Caiff eich cais ei adolygu gan yr adran/prifysgol lle mae eich darpar oruchwyliwr wedi’i leoli. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw benderfynu ar gynnig lle PhD i chi.
Cam 4 – Cyfweliad ac enwebiad
Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad gan banel llwybr. Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei enwebu gan yr Arweinydd Llwybr i Fwrdd Rheoli YGGCC i’w adolygu. Bydd eich darpar oruchwyliwr hefyd yn cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i asesu eich profiad a’ch gofynion hyfforddi. Yna bydd YGGCC yn cysylltu â chi i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais.
Cam 5 – Canlyniad
Yn dilyn adolygiad gan is-grŵp cystadleuaeth arbennig y Bwrdd Rheoli, bydd YGGCC wedyn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr enwebedig i roi eu canlyniadau. Os byddwch yn llwyddiannus, anfonir cadarnhad o lythyr ariannu atoch y bydd angen i chi ei dderbyn neu ei wrthod o fewn pythefnos. Unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig, bydd gofyn i chi fynychu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i gwblhau eich Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn.
Cam 6 – Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC a fydd yn defnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i helpu i adolygu eu profiad a’u hanghenion hyfforddi yn fanwl, gan gyfateb hyn â darpariaeth hyfforddi yn YGGCC. Bydd hyn yn caniatáu i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn gael ei gwblhau, gan nodi hyfforddiant gofynnol a sefydlu hyd y dyfarniad.
Cam 7 – Cynnig ffurfiol
Unwaith y bydd hyd y dyfarniad wedi’i gadarnhau, byddwch wedyn yn cael llythyr dyfarnu ffurfiol a llythyr ariannu gan y sefydliad rydych wedi gwneud cais iddo.
2025 Prosiectau Cydweithredol
Bydd prosiectau cydweithredol sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ganol mis Mawrth 2025.