Mae SMaRteN, y rhwydwaith ymchwil iechyd meddwl myfyrwyr a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, ar y cyd â Vitae, yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar fywydau gwaith bob dydd myfyrwyr doethurol a staff ymchwil. Eu nod yw cynnig dealltwriaeth er mwyn galluogi’r sector i gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn well.
Bydd yr arolwg yn fyw am bythefnos o ddydd Iau 16 Ebrill tan ddydd Sul 3 Mai. Mae croeso i bob myfyriwr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, sydd fel arfer yn byw yn y DU neu sy’n gweithio neu’n astudio yn y DU ar hyn o bryd gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein.
Ar ôl i’r arolwg ddod i ben, bydd SMaRteN yn rhyddhau data di-enw, fydd yn galluogi ymchwilwyr a rhanddeiliaid â diddordeb i ymgysylltu â’r dadansoddiad. Mae’n bosibl y bydd gan Brifysgolion fynediad at ddata eu prifysgol nhw os yw maint sampl yr ymatebion yn ddigon mawr i sicrhau cyfrinachedd yr ymatebwyr. Bydd Vitae’n rhyddhau crynodeb o’r canfyddiadau, ar ôl i’r tîm eu dadansoddi, ar gyfer llunwyr polisïau prifysgolion ac arianwyr.