Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

Mae YGGCC yn falch o gynnig 5 cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod.

Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod Gwanwyn/Haf 2025 am gyfnod o 3-6 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth â rhan-amser).  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.

Mae’r cyfleoedd hyn i wneud interniaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr YGGCC a ariannwyd o dan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (myfyrwyr a ddechreuodd ysgoloriaeth rhwng 2017 a 2023). Ni ddylai ymgeiswyr fod o fewn 3 mis i ddiwedd cyfnod yr ysgoloriaeth a ariannwyd.

Sylwer, mae bod yn gymwys i ymgymryd ag un o interniaethau Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar fodloni rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.

Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.


Interniaethau sydd ar gael

Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:






Sut i Wneud Cais

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@wgsss.ac.uk erbyn 4pm ar y 04/04/2025