£18.5 miliwn wedi’i ddyrannu i Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid. Mae’r buddsoddiad mewn partneriaethau hyfforddiant doethurol yn dangos…

Blog Dulliau (Methods) — Cyflwyniad i’r Golygydd Newydd

Helo! Catrin ydw i, a byddaf yn cymryd yr awenau’n Olygydd blog Dulliau. Dwi’n fyfyriwr PhD blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Dwi’n geek amgueddfeydd a threftadaeth gyda chefndir academaidd mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae fy ymchwil yn…

Adroddiad Katharine Young yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cwblhaodd Katharine Young interniaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, lluniodd adroddiad o’r enw ‘Addysg cyfrwng Cymraeg yn sgîl trochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru‘ (cliciwch ar y teitl glas i weld yr adroddiad) sydd bellach…

Rebecca Windemer: Fy 5 awgrym gorau ar gyfer dylunio ac ymgymryd â chymrodoriaeth ôl-ddoethurol ESRC

Mae’r farchnad swyddi ôl-PhD yn heriol ac yn gwbl ddigalon. Erbyn i mi orffen fy PhD, roeddwn wedi colli hyder ynof fy hun ac yn fy ymchwil. Roeddwn i wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn ceisio am nifer mawr o swyddi ôl-ddoethurol, weithiau’n cyrraedd cyfweliad ond byth yn cael y swydd. O ganlyniad, bu bron i mi beidio â gwneud cais am y gymrodoriaeth ôl-ddoethurol ESRC. Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud mwy gyda fy PhD a rhannu fy nghanfyddiadau, ond roeddwn i’n teimlo nad oedd gen i unrhyw obaith o lwyddo. Dim ond oherwydd cefais adborth calonogol gan gydweithwyr am fy nhraethawd ymchwil y penderfynais wneud cais yn y diwedd.

Interniaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – Aimee Morse

Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021, bu myfyriwr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, Aimee Morse (Cynllunio Amgylcheddol, Prifysgol Swydd Gaerloyw). yn ymgymryd ag interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan weithio ar brosiect o’r enw ‘Cydweithio a gweithredu polisi ar lefel leol yng Nghymru: gwerthusiad astudiaeth achos o grŵp ffermwyr yng Ngogledd Cymru’.  Dyma fyfyrdodau Aimee ar y profiad.

Ceisiadau am Gynrychiolwyr Myfyrwyr Nawr ar Agor!

Mae’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i ymgymryd â rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr DTP ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cynrychiolydd ychwanegol ar gyfer Prifysgol Caerdydd (i weithio ochr yn ochr â Chynrychiolydd cyfredol Prifysgol…

Adolygiad o effaith COVID-19 ar fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y DU

Mae SMaRteN, y rhwydwaith ymchwil iechyd meddwl myfyrwyr a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, ar y cyd â Vitae, yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar fywydau gwaith bob dydd myfyrwyr doethurol a staff ymchwil. Eu nod yw cynnig dealltwriaeth er mwyn galluogi’r sector i gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn well.

Myfyriwr PHD Cymru yn ennill Thesis Tri Munud Prifysgol Abertawe

Llongyfarchiadau i Darren Scott, myfyriwr PHD Cymru (yr Economi Ddigidol a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe), enillydd Thesis Tri Munud (3MT) Prifysgol Abertawe yn yr Arddangosfa Ymchwil Ol-raddedig flynyddol.   Cafodd Darren dri munud yn unig i grynhoi ei ymchwil mewn ffordd ddiddorol,…

Arolwg Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil yr ESRC

Mae Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil (NCRM) newydd lansio arolwg ar-lein sy’n edrych ar anghenion hyfforddiant myfyrwyr doethuriaeth. Mae’r arolwg hwn yn rhan o ymgynghoriad ynghylch anghenion hyfforddi ehangach a fydd yn helpu i arwain dulliau hyfforddi a ariennir gan yr…