Ymunwch â ni am gyflwyniadau gan fusnesau sydd wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr doethurol gwyddorau cymdeithasol i gynyddu cynhyrchiant, gwireddu nodau strategol, ac adeiladu i gefnogi datblygiad talent a sgiliau yng Nghymru. Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol, fel un o 14 o rwydweithiau ymchwil o fri ledled y DU. Mae cydweithio â phartneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ganolog i’n cenhadaeth. Gall sefydliadau anacademaidd elwa o ddifrif ar brosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol a chwarae rhan yn y gwaith o feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.
Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed gan Dr Charlotte Beale, Pennaeth Economeg Dŵr Cymru, Dr Michael Evans, Swyddog Prosiectau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a’r Athro David Egan, Llywodraeth Cymru, ar sut mae eu sefydliadau wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol. Byddwch yn clywed sut y gall cefnogi efrydiaeth gydweithredol neu gynnal lleoliad gwaith ychwanegu gwerth, tra’n rhoi cyfle i fyfyriwr PhD ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith mewn diwydiant. Bydd yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, yn rhoi cyngor ar sut i sefydlu trefniant sydd o fudd uniongyrchol i’ch sefydliad. Mae’r sesiwn yn cynnwys y cyfle i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ar gydweithio â phanel o oruchwylwyr, myfyrwyr doethurol a busnesau.
Ymunwch â ni ddydd Mercher 20 Hydref 2021 am yr hyn sy’n addo i fod yn sesiwn addysgiadol. I gofrestru ar gyfer y briff hwn, a gynhelir ar Zoom, dilynwch y ddolen hon Briff Brecwast – Rhoi Pŵer PhD yn eich Tocynnau Busnes, Dydd Mercher 20 Hyd 2021 am 08:30 | Eventbrite