Interniaeth gyda Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru


Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn falch o gynnig cyfleoedd i wneud interniaeth 3 mis o hyd (llawn amser neu’r hyn sy’n cyfateb i ran amser) ar y cyd â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Mai 2025. 

Caiff Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a
Chymdeithasol (ESRC), Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae hi’n gweithio gydag
arbenigwyr polisi blaenllaw i roi cyngor annibynnol a thystiolaeth o ansawdd da i weinidogion, y
gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus, i’w helpu i wella penderfyniadau a chanlyniadau
polisi. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal ymchwil i hybu dealltwriaeth o’r rhan y gall tystiolaeth ei
chwarae wrth helpu i wneud polisïau gwell a darparu gwasanaethau cyhoeddus.


Interniaethau sydd ar gael

Mae dau fath o interniaeth ar gael:

  • Interniaeth sy’n edrych ar rôl tystiolaeth wrth lunio polisïau a/neu effaith rhoi gwybodaeth ar waith.
  • Pwnc o’ch dewis eich hunan, gan ddefnyddio eich diddordebau PhD a’ch arbenigedd i ystyried maes polisi y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gwneud gwaith ynddo.   Dylai hyn ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sef Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net a Lles Cymunedol.

Pwy sy’n gymwys

Mae’r cyfleoedd hyn i wneud interniaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr YGGCC a ariannwyd o dan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (myfyrwyr a ddechreuodd ysgoloriaeth rhwng 2017 a 2023). Ni ddylai ymgeiswyr fod o fewn 3 mis i ddiwedd cyfnod yr ysgoloriaeth a ariannwyd.   


Sut i wneud cais

Dylid cyflwyno ceisiadau i Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau sef 4pm ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025. 

Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr sydd â diddordeb yn cysylltu â Chyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yr Athro James Downe, drwy e-bostio James.Downe@wcpp.org.uk , i drafod syniadau ar gyfer eich prosiect cyn cyflwyno cais.