Start date: October 2022
Award: Collaborative
Subject Pathway:
Linguistics and Bilingualism
Thematic Cluster:
Language, Learning and Behaviour Cluster
In partnership with:
The relationship between the Welsh language and the new curriculum that will operate in schools and non-maintained settings from September 2022
The new Curriculum for Wales, which will be taught from nursery to year 7 from September 2022, combines language learning and teaching in one area of learning and experience called 'Languages, Literacy and Communication'. The curriculum guidelines state that the main aim is to ‘enable learners to become multilingual, be able to use Welsh, English and at least one international language and develop an openness to and curiosity about all languages and cultures of the world. The curriculum underlines that languages are 'key to social cohesion' – a cornerstone of fostering learners' sense of their own and others' identities.
Given the aim of creating a million Welsh speakers by 2050, the crucial role of Early Years Education in providing a solid foundation in the 3 to 16 learning continuum is undeniable.
In collaboration with Mudiad Meithrin, the research will be conducted in Welsh medium funded non-maintained nursery settings in Wales, and English language settings who will also be required to teach the Welsh language to young learners, hence in accordance with the new curriculum, enabling all young children to be ‘citizens of a bilingual Wales in a multilingual world'. This will ensure that every child in Wales will benefit from all the advantages associated with being bilingual.
It is anticipated that the results of the project will improve our understanding of how young learners from diverse social and ethnic backgrounds can be encouraged to learn an additional language or languages on the basis of their Welsh-English bilingualism.
Proposed methodology will include appropriate case studies to develop an understanding of the experiences of learners and practitioners in different linguistic, geographical, and socio-economic contexts. Qualitative data will be collected through ethnographic observations (site visits to Welsh medium ‘Cylchoedd Meithrin’ and English nurseries), group activities, and interviews with practitioners, parents and children.
A combination of structured and semi structured interviews will also be conducted.
If practicable, bilingual, and multilingual settings may be considered beyond Wales.
Key questions to be addressed include:
• What practices can encourage young learners to develop as bilingual and multilingual speakers with 'positive attitudes to learning' as envisaged in the curriculum?
• In considering the inclusive ethos of the curriculum, what lessons can be learned from how the linguistic and cultural identities of the diverse populations of contemporary Wales and its under-represented groups interact with one other?
Mae'r Cwricwlwm Newydd i Gymru (a roddir ar waith o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 7 o fis Medi 2022) yn dwyn ynghyd ddysgu ac addysgu iaith mewn un Maes Dysgu a Phrofiad o'r enw ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’. Mae canllawiau'r Cwricwlwm yn nodi mai ‘galluogi dysgwyr i ddod yn amlieithog, gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol a datblygu meddwl agored a chwilfrydedd tuag at holl ieithoedd a diwylliannau y byd’ yw'r nod dysgu yn y Maes hwn. Mae'r Cwricwlwm yn tanlinellu bod ieithoedd yn ‘allwedd i gydlyniad cymdeithasol’ – yn gonglfaen i feithrin ymdeimlad dysgwyr o'u hunaniaeth eu hunain a dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill. Ni ellir gorbwysleisio rôl Addysg Blynyddoedd Cynnar wrth ddarparu sylfaen gadarn yn y continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed. Gan ystyried y pwyslais penodol yn Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, 'Cymraeg 2050', ar gyfraniad Addysg Blynyddoedd Cynnar at gyflawni'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl 'Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr’ (2017), mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffactor allweddol i gyrraedd y targed hwnnw. Fodd bynnag, bydd dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg yn sylfaen ar gyfer dysgu ieithoedd eraill. Ni waeth a ydynt yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, mae'r holl leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yng Nghymru yn gyfrifol am gyflwyno'r iaith Gymraeg i'r dysgwyr ifanc hynny y mae'r Cwricwlwm am iddynt fod yn ‘ddinasyddion Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog’.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn fframwaith y nodau uchelgeisiol a bennir gan y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn y Maes ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’.
Mae'r cwestiynau allweddol yn cynnwys:
Pa arferion a all annog dysgwyr ifanc i ddatblygu’n siaradwyr dwyieithog ac amlieithog ag ‘agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu’ fel y'i rhagwelir yn y Cwricwlwm?
Gan ystyried ethos cynhwysol y Cwricwlwm, pa wersi y gellir eu dysgu o'r rhyngweithio rhwng hunaniaethau ieithyddol a diwylliannol poblogaethau amrywiol Cymru gyfoes a'i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli?
Y bwriad yw defnyddio cyfuniad o ddulliau wrth ymgymryd â'r ymchwil hon. Cynhelir astudiaethau achos priodol er mwyn meithrin dealltwriaeth o brofiadau dysgwyr ac ymarferwyr mewn cyd-destunau gwahanol. Cesglir data ansoddol drwy arsylwi ethnograffig (ymweliadau â safleoedd), gweithgareddau grŵp a chyfweliadau ag ymarferwyr, rhieni a phlant.
Mae canlyniadau disgwyliedig y prosiect yn cynnwys gwell dealltwriaeth o'r ffordd fwyaf effeithiol o annog dysgwyr dwyieithog ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol ac ethnig i ddysgu ieithoedd ychwanegol, a llunio canllawiau i arfer gorau, a'r effeithiau y gall ymagwedd amlieithog a lluosieithog o'r fath eu cael ar eu hunaniaethau ieithyddol a diwylliannol.